1. PERYGL DIEITHRIAID
Fyddech chi ddim yn rhannu lluniau na rhoi gwybodaeth bersonol i ddieithryn wyneb yn wyneb. Mae’r un fath ar-lein. Allwch chi ddim gwybod pwy sydd tu ôl i’r sgrin. Dywedwch wrth eich gofalwr maeth ar unwaith os bydd rhywbeth ar-lein yn eich gwneud yn anesmwyth.
2. GOSODIADAU PREIFATRWYDD
Mae’n hawdd iawn sefydlu eich hun ar gyfryngau cymdeithasol, ond gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y gosodiadau preifatrwydd uchaf. Os nad ydych – ewch yn ôl a gwirio! Edrychwch ar Google i chwilio amdanoch chi’ch hun a gweld beth sy’n ymddangos yn y canlyniadau – dyma eich ‘ôl troed digidol’. Efallai nad yw’ch gwybodaeth mor gudd ag y tybioch.
3. MAE POSTIO YN BARHAOL
Dydy dileu rhywbeth ar-lein ddim yn golygu ei ddileu o’r rhyngrwyd am byth. Wedi postio rhywbeth ar-lein, gall unrhyw un ei gadw, lawrlwytho a’i ail-ddefnyddio. Peidiwch â phostio unrhyw beth y gallech edifarhau yn hwyrach.
4. CYFRINEIRIAU CRYF
Dewiswch gyfrineiriau diogel gyda chyfuniad o symbolau, rhifau a phriflythrennau. Peidiwch byth â rhannu eich cyfrineiriau gydag unrhyw un – hyd yn oed ffrindiau.
5. GWYBODAETH BERSONOL
Os yw rhywun yn eich adnabod yn ddigon da, ni fydd byth angen gofyn am wybodaeth bersonol wrth sgwrsio ar-lein, fel eich cyfeiriad neu ysgol. Peidiwch â rhannu’r wybodaeth yma a byddwch yn ofalus pwy sy’n gofyn amdani.
6. NEWYDDION FFUG
Os yw’r rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod! Mae’n fwy na dim ond cyfryngau cymdeithasol. Mae yna negeseuon e-bost sothach hefyd. Peidiwch byth ag agor atodiadau gan anfonwr anhysbys, gallai fod yn firws. A pheidiwch byth â throsglwyddo gwybodaeth bersonol mewn e-bost – ni fydd sefydliadau yr ymddiriedir ynddynt fyth yn gofyn am hyn mewn e-bost.
7. PARCH
Mae mor hawdd teipio rhywbeth pan fyddwch chi’n cuddio tu ôl i’ch sgrin. Ond cofiwch, mae yna berson go iawn ar ochr arall y sgrin, felly byddwch yn barchus a chwrtais.
8. Y STORI LAWN?
Cofiwch mai dim ond rhan o’r stori yw’r ffordd o fyw a welir ar gyfryngau cymdeithasol. Er gwaethaf sut mae’n edrych o’r tu allan, does gan fywyd perffaith.
9. RHWYSTRO NEU ADRODD AM GYNNWYS
Byddwch yn gyfrifol am wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i fod.
Ac un peth arall…
10. GWYBOD PRYD MAE 10. ANGEN ALLGOFNODI
Mae defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel yn fwy na dim ond beth fyddwch chi’n ei wneud ar-lein, mae hefyd yn fater o faint o amser ydych chi’n treulio yn gwneud hyn a sicrhau nad yw’n effeithio ar yr ysgol neu’ch cwsg. Rhaid gwybod pryd mae angen allgofnodi!