Mae tystiolaeth yn awgrymu bod yna bum cam y gallwch eu cymryd i wella’ch iechyd a lles meddwl.
Gallai ceisio gwneud y pethau hyn eich helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol ac yn alluog i gael y fantais fwyaf o fywyd.
- Cysylltwch â phobl eraill – ceisiwch fagu perthnasoedd cryfach ac agosach.
- Byddwch yn gorfforol egnïol – gall helpu’ch lles corfforol a meddyliol.
- Dysgwch sgiliau newydd – gall sgil newydd roi hwb i’ch hyder, rhoi ymdeimlad o ddiben ichi a’ch helpu i ennill cyfeillion newydd.
- Rhowch i eraill – gall gweithredoedd o garedigrwydd greu teimladau cadarnhaol ac ymdeimlad o wobrwyo.
- Rhowch sylw i’r adeg bresennol (ymwybyddiaeth ofalgar) – mae hyn yn cynnwys eich meddyliau a’ch teimladau, eich corff a’r byd o’ch amgylch.
Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y pum cam hyn yn: