Nid yw bod mewn gofal yn golygu y dylid gwneud pethau drosoch chi – dylid gwneud pethau gyda chi.
Ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom gynhyrchu’r hyn a allai fod yn ein rhifyn pwysicaf o Ffynnu hyd yn hyn. Roedd yn ystyried yr hawliau sydd gennych os ydych mewn gofal – yr hyn y mae gennych hawl iddo, sut y gallwch fynegi’ch barn (a chael pobl i wrando arni a’i gweithredu), a phwy a all eich helpu i sicrhau eich bod yn defnyddio’ch hawliau.
Beth yw eich hawliau?
I’ch cael chi i feddwl am eich hawliau, dyma chwech o hawliau penodol sydd gennych os ydych mewn gofal ac y dylech ofyn amdanynt os credwch fod arnoch eu hangen…
-
Yr hawl i gael eich clywed
Dyma fwy na thebyg yr hawl pwysicaf oherwydd ei fod yn ymwneud â phobl yn gwrando arnoch a chael pobl i roi ystyriaeth i’ch barn pan wneir penderfyniadau ynglŷn â chi.
-
Yr hawl i dŷ diogel ac addas
Os ydych yn iau na 18 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol dalu am y tŷ hwn. Os oes yn rhaid ichi symud i gartref maeth newydd, dylent ofyn ichi am eich barn am y symudiad o flaen llaw. Dylai’r awdurdod lleol hefyd sicrhau ei fod yn talu’ch costau byw beunyddiol, er y gall yr arian am hyn fynd yn uniongyrchol i’ch gofalwyr maeth.
-
Yr hawl i addysg
Dylai’r awdurdod lleol wneud popeth y gall i sicrhau eich bod yn cael eich cynorthwyo i gyrraedd eich potensial addysgol. Dylai sicrhau bod gennych gynllun addysg personol a dylai wneud popeth posibl i leihau hyd yr eithaf ar darfu ar eich addysg.
-
Yr hawl i weld eich teulu
Gall cadw mewn cysylltiad a gweld eich teulu, eich brodyr a chwiorydd neu aelodau teuluol eraill fod yn eithriadol bwysig ichi. Penderfynir fel arfer ar ba mor aml, pa bryd a ble y gwelwch eich teulu gan y llysoedd; ond sut bynnag y penderfynir arno, dylid gwrando ar eich barn ar hyn a dylid ei hystyried.
-
Yr hawl i gynllun gofal a chynllun llwybr
Dylai fod yna gynllun llwybr ar waith erbyn yr adeg rydych yn 16 oed. Dylid addasu hwn o’ch cynllun gofal a rhoi ystyriaeth i’r hyn y bydd arnoch ei angen ar ôl ichi gyrraedd 16 oed. Dylid adolygu’ch cynllun o leiaf bob chwe mis.
-
Yr hawl i wneud cŵynt
Gobeithio, bydd eich gofalwyr maeth, gweithiwr cymdeithasol, cynghorydd personol, swyddog adolygu annibynnol neu eiriolwr wedi gallu helpu i ddatrys beth bynnag yw’r sefyllfa, ond mae gan bob awdurdod lleol drefnau cwyno y mae’n rhaid iddynt gadw atynt. Gallwch ganfod y drefn gwyno ar wefan yr awdurdod lleol neu gofynnwch i rywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi ei ganfod ichi.
Defnyddio eiriolwr
Pan ydych yn derbyn gofal, mae’n rhaid cymryd eich barn o ddifri’ am y pethau sy’n bwysig i chi. Weithiau, serch hynny, gallech ei chael hi’n anodd mynegi’ch barn neu efallai eich bod yn teimlo na wrandawir yn briodol ar eich barn. Gall eiriolwr eich helpu gyda hynny. Yng Nghymru, mae yna gynnig gweithredol o eiriolaeth, a hyd yn oed os cynigiwyd eiriolwr ichi’n flaenorol a’ch bod chithau wedi gwrthod, gallwch ddal i ofyn am eiriolwr.
Gweithwyr annibynnol yw eiriolwyr sydd yn eich cynorthwyo trwy:
- Egluro pa ddewisiadau a hawliau sydd gennych
- Sicrhau y caiff eich barn ei mynegi a’i pharchu
- Mynychu cyfarfodydd gyda chi (neu drosoch chi)
- Herio unrhyw benderfyniadau nad ydynt yn eich bodloni.
Os byddech yn canfod eiriolwr yn fuddiol, yna gofynnwch i’ch gofalwyr maeth, eich gweithiwr cymdeithasol neu’ch cynghorwr personol.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod