Clywn lawer y dyddiau hyn am sicrhau bod eich lles meddwl yn dda – ac mae hynny oherwydd ei fod yn wir.
Os yw’ch llesiant meddyliol yn wael, mae’n effeithio ar bob agwedd o’ch bywyd, a gall hyd yn oed eich gwneud yn gorfforol sâl. Felly, mae meddwl am sut rydych yn cynnal llesiant meddyliol cadarnhaol, yn enwedig wrth ichi’i hanelu at fyw’n annibynnol, yn eithriadol bwysig.
Beth yw llesiant meddyliol?
Gall llesiant meddyliol olygu gwahanol bethau i wahanol bobl – ond fel arfer mae’n golygu sut rydych yn teimlo ar y funud a sut rydych yn ymdopi â bywyd beunyddiol. Wrth gwrs, gall ein lles amrywio o ddydd i ddydd – neu hyd yn oed yn amlach na hynny. Weithiau, mae’r newid hwnnw’n digwydd oherwydd pethau sy’n digwydd yn ein bywyd, ond weithiau gall deimlo fel pe na bae yna reswm neilltuol. Mae bod â llesiant meddyliol da yn cynnwys cael strategaethau ar gyfer ymdopi â’ch emosiynau a theimlo fel petai bywyd yn iawn yn gyffredinol.
Gallech hefyd glywed y term iechyd meddwl. Mae a wnelo iechyd meddwl â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu – a gall amrywio o dda i wael. Problem iechyd meddwl yw pan fo’r ffordd rydym yn meddwl, yn teimlo neu’n gweithredu yn mynd yn anodd inni ymdopi ag ef. Efallai eich bod yn teimlo’n drist/yn frwyn neu’n ddig am hwy nag arfer, neu nad ydych yn mwynhau’r pethau roeddech yn arfer â’u gwneud. Os yw’r teimladau hyn yn parhau am amser maith, wedyn efallai y bydd arnoch angen ceisio cael cymorth.
Adnoddau llesiant sydd o gymorth
Os oes arnoch angen cymorth brys, ffoniwch Childine ar 0800 11 11 neu’r Samariaid ar 116123, os gwelwch yn dda
Pum cam i wella’ch llesiant meddyliol
Gall rhoi cynnig ar y pethau hyn eich helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol ac yn fwy galluog i gael y fantais fwyaf ar fywyd.
-
Cysylltwch â phobl eraill
Ceisiwch fagu perthnasoedd cryfach a nes.
-
Byddwch yn gorfforol weithgar
Gall helpu’ch llesiant corfforol a meddyliol.
-
Dysgwch sgiliau newydd
Gall sgil newydd hybu hyder, rhoi ymdeimlad o ddiben ichi a’ch helpu i ennill cyfeillion newydd.
-
Rhowch i eraill
Gall gweithredoedd o garedigrwydd greu teimladau cadarnhaol ac ymdeimlad o wobrwyo.
-
Rhowch sylw i’r funud presennol (ymwybyddiaeth ofalgar)
Mae hyn yn cynnwys eich barnau a’ch teimladau, eich corff a’r byd o’ch amgylch.