What is Thrive?

Crëir Ffynnu gydag ac ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad gofal yng Nghymru.
Mae’n lle i rannu hanesion cadarnhaol, i ddathlu cyflawniadau, ac i archwilio syniadau sy’n bwysig i chi.

Dechreuodd Ffynnu fel cylchgrawn yn llawn o leisiau go iawn a chreadigrwydd oddi wrth bobl ifanc mewn gofal, ac sydd yn awr wedi’i wastatáu – digidol, ffres, ac wedi’i wneud ar gyfer sut mae arnoch chi eisiau’i ddarllen.
Yma, fe ganfyddwch gyfweliadau, erthyglau, fideos a chyfleoedd a wnaed i’ch helpu i ddysgu, cysylltu a ffynnu yn eich ffordd eich hun.

Credwn fod bod â phrofiad gofal ond yn un rhan o bwy rydych.  Mae a wnelo popeth ar Ffynnu â’ch helpu i deimlo’n falch, yn cael cefnogaeth ac yn hyderus yn yr hyn rydych oherwydd bod eich llais yn haeddu cael ei glywed.

🌱Hanes Ffynnu

Dechreuodd Ffynnu dros 20 mlynedd yn ôl fel cylchgrawn wedi’i argraffu a wnaed gan ac ar gyfer pobl ifanc â phrofiad gofal ledled Cymru. Roedd yn llawn o ysgrifennu creadigol, cyfweliadau a chynghorion, y cyfan wedi’i ysgrifennu gan bobl sy’n ei gael o.

Dros amser, tyfodd Ffynnu i fod yn rhywbeth mwy, ac o ganlyniad yn 2025 daeth yn lle digidol sy’n dathlu’ch lleisiau ac yn amlygu’r pethau cadarnhaol sy’n digwydd mewn cymunedau gofal ledled Cymru.

Felly, tyfodd Ffynnu i fod y wefan hon: lle byw, sy’n anadlu lle y gall eich syniadau, eich creadigrwydd a’ch profiad gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl. Mae’n dal i fod wedi’i adeiladu ar yr un neges, sef bod gan bobl ifanc mewn gofal bethau anhygoel i’w dweud, ac rydym yma i sicrhau bod y lleisiau hynny’n cael eu clywed.

Mae Ffynnu’n bodoli i sicrhau y caiff pobl ifanc sydd â phrofiad gofal eu gweld, eu clywed a’u dathlu.

🌟 Bwrdd Cynghori Ieuenctid Cymru

Mae’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid (YAB) yn cynnwys pobl ifanc â phrofiad gofal o bob cwr o Gymru sy’n 14-25 oed, lle maent yn creu ymgyrchoedd ynglŷn â materion sy’n effeithio ar bobl ifanc sydd â phrofiad gofal, yn ogystal â helpu i dywys sut mae Ffynnu’n edrych.

Mae aelodau YAB yn rhannu syniadau, yn rhoi adborth ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r hyn a gaiff ei gynnwys ar y wefan – o’r pynciau rydym yn eu cynnwys i’r bobl rydym yn eu cyfweld.

Mae ymuno â’r YAB yn golygu:

  • Cael pobl i glywed eich llais ar faterion sy’n cyfri’ i chi
  • Gweithio gydag eraill sy’n rhannu profiadau cyffelyb
  • Magu hyder, arweinyddiaeth a sgiliau gweithio fel tîm
  • Helpu i wneud pethau’n well i bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru.

Eisiau bod yn rhan ohono?  Ewch i’n tudalen [Cymerwch Ran] neu anfonwch neges atom – byddem wrth ein bodd o glywed gennych!

🤝 Cymerwch Ran

Mae a wnelo Ffynnu yn gyfan gwbl â phobl ifanc yn arwain y ffordd – ac mae hynny yn cynnwys y chi!

Mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan:

  • 📝 Ysgrifennwch i Ffynnu: Rhannwch eich stori, cerdd, erthygl neu’ch darn creadigol.
  • 🎨 Dangoswch eich dawn: Anfonwch waith celf, ffotograffiaeth neu fideos atom sy’n golygu rhywbeth ichi.
  • 🗣️ Ymunwch â Bwrdd Cynghori Ieuenctid Cymru: Helpwch i lunio’r hyn a wna Ffynnu nesaf a gwnewch wahaniaeth i bobl ifanc â phrofiad gofal yng Nghymru!

Mae stori pawb yn cyfri’.  Mae llais pawb yn cyfri’.