A wyddoch y gwahaniaeth rhwng FCA ac CLA?
Un o’r pethau anosaf am fyw mewn gofal o bosibl yw’r nifer o acronymau a thalfyriadau a ddefnyddir. Fel y dywedodd un person ifanc wrth Ffynnu, ‘Gwnes ond canfod beth mae PA yn ei gynrychioli ‘llynedd, ac rwyf yn 22 yn awr! Dylent ei gwneud hi’n eglur beth mae’n ei gynrychioli a beth maent yn ei wneud.’
Dylai’r gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â’ch gofal wneud eu gorau i beidio â defnyddio’r jargon hwn na’r acronymau hyn o gwbl, ond weithiau maent yn llithro i’w defnyddio heb fwriadu gwneud hynny. Os yw’n dal i ddigwydd, ac ni wyddoch beth mae’n ei feddwl, dylech ofyn i’r unigolyn sy’n defnyddio’r jargon i’w egluro ichi.
Dyma gwis i weld faint o’r acronymau a’r talfyriadau hyn rydych yn eu gwybod.
1. FCA
2. CLA
3. IRO
4. PA
5. SW
6. ICO
7. PEP
8. LA
9. DSP
Cliciwch isod i ddatgelu’r atebion!
Family Court Advisor / Cynghorydd Llys Teulu
Child Looked After / Plentyn Sy’n Derbyn Gofal
Independent Reviewing Officer / Swyddog Adolygu Annibynnol
Personal Advisor / Cynghorydd Personol
Social Worker / Gweithiwr Cymdeithasol
Interim Care Order / Gorchymyn Gofal
Personal Education Plan / Cynllun Addysg Personol
Local Authority / Awdurdod Lleol
Designated Safeguarding Person / Person Diogelu Dynodedig