Os ydych yn berson ifanc mewn gofal, mae’ch cynllun llwybr yn ddogfen bwysig iawn sy’n amlinellu sut y bydd eich awdurdod lleol a gwasanaethau plant yn eich helpu ar eich taith i annibyniaeth. Mae’n dweud beth mae arnoch eisiau’i wneud, pa gymorth y mae arnoch ei angen a sut y bydd gwasanaethau plant yn darparu’r cymorth hwnnw tan rydych yn cyrraedd 21 oed (neu hyd at 25 oed os ydych yn dal mewn addysg neu hyfforddiant).

Gan bwy y mae cynllun?

Dywed y gyfraith yng Nghymru bod yn RHAID ichi gael cynllun os ydych: dros 16 oed;

  • wedi bod mewn gofal am o leiaf 13 wythnos
  • ers ichi gyrraedd 14 oed (nid oes yn rhaid i’r rhain fod i gyd gyda’i gilydd yr un pryd, ond ni allant gynnwys gofal seibiant)
  • wedi bod mewn gofal am o leiaf un diwrnod • ers ichi gyrraedd 16 oed.

Beth a ddylai fod yn eich cynllun?

Fel arfer, ysgrifennwyd eich cynllun llwybr, gyda’ch mewnbwn chi ac yn seiliedig ar asesiad gan eich awdurdod lleol, tua’r un adeg ag rydych yn cyrraedd 16 oed. Dyma’r prif bethau y dylai’u cynnwys:

  1. Beth yw nodau’ch gyrfa sut y cewch eich cynorthwyo i’w cyflawni?

  2. Sut y cewch eich helpu i fagu a chynnal perthnasoedd da gyda’r bobl sy’n bwysig i chi.

  3. Faint o arian y mae gennych hawl iddo a pha gymorth a roddir ichi gyllidebu a chynilo ar gyfer y dyfodol.

  4. A oes gennych yr holl ddogfennau adnabod y mae arnoch eu hangen, ac a wyddoch sut i gyrchu’r ffeiliau amdanoch?

  5. A oes arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol yn ymwneud ag iaith, crefydd, ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol?

  6. Lle y byddwch yn byw. (Byddwn yn ystyried hyn yn rhifyn nesaf Ffynnu).

  7. Sut y caiff eich lles meddyliol a chorfforol eu cynorthwyo.

Pinboard with string and post it notes

Eich cynllun chi ydy o!

Mae a wnelo cynllun llwybr â’ch dyfodol CHI, ac felly mae arnoch angen sicrhau y gwrandewir ar eich barn a’ch syniadau. Bydd eich cynghorydd personol yn eich cynorthwyo i ysgrifennu’r cynllun, ac felly bydd arnoch angen sicrhau eu bod yn rhoi’ch barn wrth graidd yr holl opsiynau a phenderfyniadau.

Ond nid dim ond eich lleisiau chi sydd angen cael eu clywed. Mae llawer o bobl eraill (fel eich gofalwyr maeth, eich rhieni, eich ysgol neu goleg) yn eich adnabod yn dda a bydd ganddynt syniad da am y gefnogaeth y bydd arnoch ei hangen i allu pontio i fyw’n annibynnol.

Amser adolygu

Dylid adolygu’ch cynllun llwybr o leiaf bob chwe mis, ond gallwch ofyn am iddo gael ei adolygu unrhyw adeg, yn enwedig os bu yna newid mawr yn eich bywyd. A pheidiwch ag anghofio sicrhau eich bod yn cael copi o’r cynllun wedi’i ddiweddaru fel y gallwch wirio bod pawb yn cadw ato.

Ddim yn cael eich clywed?

Os nad ydych yn fodlon â’r gefnogaeth rydych yn ei chael, neu os ydych yn meddwl na wrandewir arnoch, yna gallai eiriolwr allu’ch helpu.

Os oes arnoch angen eiriolwr, cysylltwch â:

NYAS Cymru 0808 808 1001 neu help@nyas.net neu

Neu Tros Gynnal Plant 0800 111 6880 neu admin@tgpcymru.org.uk

‘Os nad ydych chi yn credu ynoch eich hun, yna pam y dylai neb arall gredu ynoch?’

-Tom Brady, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd mwyaf llwyddiannus

‘Os nad ydych chi yn credu ynoch eich hun, yna pam y dylai neb arall gredu ynoch?’

-Tom Brady, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd mwyaf llwyddiannus

‘Os nad ydych chi yn credu ynoch eich hun, yna pam y dylai neb arall gredu ynoch?’

-Tom Brady, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd mwyaf llwyddiannus

‘Os nad ydych chi yn credu ynoch eich hun, yna pam y dylai neb arall gredu ynoch?’

-Tom Brady, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd mwyaf llwyddiannus