Hyd nes rydych yn 16 oed, nid ydych go iawn wedi cael llawer o ddewis – mae hi wedi bod yn ysgol bob dydd ers dros ddegawd! Ond yn awr, rydych yn wynebu llawer o ddewisiadau ynglŷn â ph’un a, a lle, parhau mewn addysg llawn amser, neu beth y dylech ei wneud yn lle hynny.

Dyma’ch prif ddewisiadau:

Parhau yn yr ysgol neu goleg

Gallwch barhau yn yr ysgol neu ymgeisio i fynd i goleg. Mae yna gynifer o gyrsiau i ddewis ohonynt, yn cynnwys BTECau, Diplomâu neu Safon Uwch.

Mae Safon Uwch yn ddewis ardderchog os ydych yn meddwl am brifysgol, ac mae’n ofynnol eu cael ar gyfer llawer o swyddi hefyd. Cofiwch, hyd yn oed os penderfynwch wneud Safon Uwch yn 16 oed, gallech ddal i wneud prentisiaeth yn ddiweddarach. Mewn gwirionedd, mae rhai prentisiaethau’n mynnu eich bod yn gwneud Safon Uwch yn gyntaf.

Someone cutting wood with a electric saw

Ewch yn brentis

Os ydych eisoes wedi penderfynu ar yrfa neilltuol, yna gallai prentisiaeth fod ar eich cyfer chi. Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd gydag astudio – mae’n swydd go iawn sy’n gweithio tuag at gymhwyster. Ac mi gewch eich talu (er nad cymaint ag yr hoffech)!

Mae yna wahanol lefelau o brentisiaethau, ac maent fel arfer yn cymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i’w cwblhau.

Ewch yn hyfforddai

Mae hyfforddeiaeth yn rhaglen ddysgu, gyda gwahanol lefelau, i bobl 16-17 mlwydd oed. Mae’n rhoi blas ichi ar swydd ac yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae arnoch eu hangen i gael swydd neu i fynd ymlaen i ddysgu pellach neu brentisiaeth … ac mi gewch eich talu!

Gall hyfforddeiaeth fod yn ddewis da os ydych yn ansicr ynglŷn â’r hyn y mae arnoch eisiau’i wneud fel gyrfa, neu os oes arnoch angen cymorth i gymryd rhan mewn cyflogaeth neu addysg. Siaradwch gyda chynghorydd gyrfaoedd yn yr  ysgol am hyfforddeiaeth, neu os ydych wedi gadael ysgol, gall gwefan Cymru’n Gweithio helpu.

A girl working in a cafe

Ewch am swydd lawn amser

Efallai nad yw parhau â’ch addysg yn rhywbeth i chi. Gallai ymgeisio am swyddi fod yn ddewis cywir i chi. Rydych yn dysgu llawer o sgiliau newydd, rydych yn cymryd mwy o gyfrifoldeb ac, wrth gwrs, yn cael eich talu. Bydd arnoch angen meddwl ar gyfer pa swyddi rydych yn fwyaf addas a dechrau llunio’ch CV.

Mae Cymru’n Gweithio yn adnodd gwych i unrhyw un dros 16 oed gael at gynghorion ac arweiniad arbenigol i helpu i oresgyn rhwystrau y gallech fod yn eu hwynebu i’ch cael i mewn i waith.

Gwnewch waith gwirfoddoli

Mae llawer o swyddi’n gofyn ichi gael rhywfaint o brofiad, ond gall hi ymddangos yn wirioneddol anodd cael profiad heb gael swydd. Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddatrys hyn ac o wneud rhywbeth da dros eich cymuned.

Mae’n ffordd ragorol o gynyddu’ch sgiliau a’ch hunanbarch, ac mae’n ffordd dda o ennill cyfeillion newydd. Mae hefyd yn edrych yn dda ar eich CV.

Cyngor gwych

Peidiwch ag anghofio bod gyrfacymru.llyw.cymru ar gael i’ch helpu i gynllunio’ch gyrfa, i baratoi i gael swydd, ac i ganfod ac ymgeisio am y prentisiaethau, y cyrsiau a’r hyfforddiant cywir.

‘Boed i’ch dewisiadau adlewyrchu’ch gobeithion, nid eich ofnau.’

-Nelson Mandela, cyn-Arlywydd De Affrica

‘Boed i’ch dewisiadau adlewyrchu’ch gobeithion, nid eich ofnau.’

-Nelson Mandela, cyn-Arlywydd De Affrica

‘Boed i’ch dewisiadau adlewyrchu’ch gobeithion, nid eich ofnau.’

-Nelson Mandela, cyn-Arlywydd De Affrica

‘Boed i’ch dewisiadau adlewyrchu’ch gobeithion, nid eich ofnau.’

-Nelson Mandela, cyn-Arlywydd De Affrica