Sut i wneud pontio di-dor

Gall symud ysgol fod yn gyffrous, yn ingol ac yn heriol. Rydym oll yn gorfod ei wneud pan wnawn y naid o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, ond gwyddom hefyd fod gan – am nifer o resymau – lawer o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal symudiadau ychwanegol, weithiau yng nghanol blwyddyn ysgol.

Ar y tudalen hyn, edrychwn ar gynghorion ynglŷn â sut i wneud y pontio mor ddi-dor â phosibl. Byddem yn awgrymu gofyn i athro, eich gofalwr maeth neu’ch gweithiwr cymdeithasol drin a thrafod y pethau ar y rhestr gyda chi a’ch helpu i wneud iddynt ddigwydd.

Un ar ddeg o gynghorion gwych ar gyfer symud ysgol yn llwyddiannus

  1. Ffarweliwch yn iawn â’ch cyfeillion ysgol a’ch athrawon – efallai creu llyfr atgofion neu ofyn i bawb lofnodi crys-T.

  2. Ysgrifennwch restr o’r holl bethau rydych yn edrych ymlaen atynt nglŷn â’ch ysgol newydd, yn ogystal â’r pethau rydych yn nerfus amdanynt.

  3. Canfyddwch rywun rydych yn ymddiried ynddo/ ynddi i siarad yn agored am sut rydych yn teimlo am symud ysgol.

  4. Dyfeisiwch gynllun yn ymwneud â’r hyn a wnewch mewn sefyllfaoedd neilltuol, megis mynd ar goll neu anghofio’ch dillad Ymarfer Corff.

  5. Ymunwch â chlybiau yn eich ysgol newydd i ennill cyfeillion.

  6. Siaradwch â phlant hŷn neu bobl ifanc sydd wedi profi symud ysgol yn ddiweddar am beth y canfuant o gymorth.

  7. Fel person ifanc sydd â phrofiad gofal, dylai fod gennych hawl i gynefino manylach yn eich ysgol newydd. Gofynnwch i’ch gofalwyr maeth neu’ch gweithiwr cymdeithasol ganfod sut y gall hynny ddigwydd.

  8. Cynlluniwch eich taith i’ch ysgol newydd ac ewch draw yno cyn y diwrnod cyntaf fel y byddwch yn gwybod yn union sut i fynd yno a faint o amser a gymer – nid oes arnoch eisiau’r straen o fod yn hwyr ar eich diwrnod cyntaf.

  9. Meddyliwch am sut y byddwch yn cyflwyno’ch hun i bobl newydd, a’r hyn y byddwch yn ei ddweud wrthynt (os rhywbeth o gwbl) am fyw mewn gofal. Sut y byddwch yn egluro, os bydd yn rhaid ichi, pwy yw’ch gofalwyr maeth? Gall chwarae rhan hyn gyda’ch gofalwyr maeth fod yn ddefnyddiol.

  10. Gwnewch restr o’r pethau rydych yn dda ynddynt. Gofynnwch i’ch gofalwyr maeth ychwanegu at y rhestr. Gall gwybod beth yw’ch cryfderau eich helpu i ymdrin â newid ac unrhyw heriau a all ddod gyda hynny.

  11. Adfyfyriwch wrth i’ch tymor cyntaf yn eich ysgol newydd fynd rhagddo: A ydw i’n manteisio hyd yr eithaf ar gyfleoedd i ennill cyfeillion newydd? A allaf ganfod fy ffordd yn hawdd o amgylch yr ysgol? A ydw i’n drefnus? A ydw i’n gwneud cystal ag y gallaf gyda’m gwaith ysgol? Pa mor ddedwydd yr ydw i’n teimlo wrth imi’i hanelu hi am yr ysgol?