Mae pawb o dan bwysau gydag arholiadau.
Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw sut rydych yn rheoli straen beth y gallwch ei wneud i’w leihau.
Dyma rai o’n cynghorion gorau:
Cyn eich arholiadau
- Gwnewch amser i bethau rydych yn eu mwynhau. Mae cymryd amser i ymlacio, cael hwyl a bod gyda chyfeillion yn wirioneddol bwysig os ydych am ddal i fod yn ddigyffro a gwneud eich gorau yn eich arholiadau.
- Gofalwch am eich iechyd corfforol. Bwytewch yn dda, gwnewch ymarferion.
- Siaradwch ag eraill am sut rydych yn teimlo. Efallai mai’ch gofalwyr maeth fydd y bobl orau i siarad â nhw, ond gallant fod yn gyfeillion, teulu, athrawon, gweithwyr cymdeithasol neu unrhyw un arall sy’n dda am wrando.
- Cynlluniwch eich amser yn dda. Rhannwch ddiwrnodau’n adrannau a meddyliwch am yr hyn rydych am ei adolygu pan a sut y gallwch gael amser i ymlacio.
- Meddyliwch am ym mha le y gallwch adolygu orau. Gofynnwch i’ch gofalwyr maeth ddarparu rhywle sy’n gweithio i chi.
- Stopiwch gymharu’ch hun ag eraill. Gweithiwch ar eich cyflymdra a pheidiwch â theimlo fel petai’n rhaid ichi fod cystal â’ch cyfeillion.
- Diffoddwch eich cyfryngau cymdeithasol tra ydych yn adolygu.
- Cytunwch â’ch gofalwyr maeth na allech bob amser gadw’ch ystafell mor daclus ag arfer neu helpu yn y tŷ cymaint ag y gwnewch fel arfer. Gan hynny ni fydd yna unrhyw anghydfod am y mathau hyn o bethau.
Yn ystod eich arholiadau
- Sicrhewch eich bod yn drefnus a bod gennych bopeth y mae arnoch ei angen ar gyfer eich arholiadau wedi’i baratoi’r noson cynt. Wedyn, ewch i’ch gwely’n gynnar.
- Cyrhaeddwch mewn da bryd.
- Bwytewch frecwast da a sicrhewch eich bod yn yfed digon o ddŵr i gadw’n hydradol.
- Darllenwch y cwestiynau’n ofalus a daliwch i anadlu!
- Daliwch i gofio fod eich gorau’n ddigon da, ac nad arholiadau yw popoeth mewn bywyd.
Ar ôl eich arholiadau
- Ceisiwch beidio â chymharu’ch atebion ag eraill – mae’n ffordd gyflym o wneud eich hun deimlo dan straen go iawn!
- Rhowch amser hamdden i chi’ch hun i wneud rhywbeth ymlaciol neu hwyliog.
- Wedyn, meddyliwch am beth sydd nesaf a rhowch eich sylw ar hynny.
Os ydych yn teimlo wedi’ch gorlethu’n llwyr ac nad oes dim yn helpu, gallwch bob amser gysylltu â:
Meic (ffoniwch 0808 80 23456, tecstiwch 84001 neu sgwrsiwch ar-lein: meiccymru.org).
Childline (0800 1111)
neu’r Samariaid (116 123).
Cynghorion i atgoffa’ch hun bod yna fwy go iawn i fywyd nag arholiadau
- Cofiwch fod gennych nodweddion pwysig eraill. Meddyliwch am y pethau y byddai’ch cyfeillion, eich teulu a’ch gofalwyr maeth yn ei ddweud sy’n wych amdanoch.
- Gwnewch restr o’r holl bethau rydych yn eu mwynhau – ac wedyn canfyddwch amser i’w gwneud.
- Gwnewch restr arall o rai o’ch cyflawniadau diweddar (ni waeth mor fawr neu fach) nad ydynt yn gysylltiedig ag arholiadau.
- Edrychwch ar luniau o adeg pan oeddech yn cael hwyl ac yn neilltuol o hapus. Cofiwch nad yw’r adegau hyn yn ddibynnol ar ba mor dda rydych wedi’i wneud yn eich arholiadau.