Yr hyn y mae gennych hawl iddo pan ydych yn byw mewn gofal
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc, ni waeth pwy ydynt neu o le y dônt, hawliau (pethau y mae gennych hawl iddynt). Fel person ifanc sy’n byw mewn gofal, mae yna hawliau penodol sydd gennych a phethau y dylech ofyn amdanynt os nad ydych yn eu cael ac y
credwch fod arnoch eu hangen (gweler tudalen 4 ar gyfer gyda phwy y gallwch siarad am gymorth a chyngor).
Dyma rai o’r hawliau pwysig hynny:
Yr hawl i gael eich clywed
Efallai mai dyma’r hawl pwysicaf sydd gennych – sef yr hawl i gael eich clywed ac i gael pobl i roi ystyriaeth i’ch barnau pan wneir penderfyniadau amdanoch. Nid oes dim gwaeth na theimlo fel petai pethau’n cael eu gwneud drosoch, ac mae’r hawl hwn yn bodoli i sicrhau nad yw hynny’n digwydd.
Yr hawl i dŷ diogel ac addas
Os ydych yn iau na 18 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol dalu am y tŷ hwn, ac os oes yn rhaid ichi symud i gartref maeth newydd, dylent ofyn ichi am eich barn am y symudiad o flaen llaw. Dylai’r awdurdod lleol hefyd sicrhau eu bod yn talu’ch costau byw beunyddiol, er y gall yr arian am hyn gael ei dalu’n uniongyrchol i’ch gofalwyr maeth.
Yr hawl i addysg
Dylai’r awdurdod lleol wneud popeth y gall i sicrhau eich bod yn cael eich cynorthwyo i gyrraedd eich potensial addysgol. Dylent sicrhau bod gennych gynllun addysg personol, a dylent wneud popeth posibl i leihau tarfu ar eich addysg.
Yr hawl i weld eich teulu
Gall cadw mewn cysylltiad a gweld eich rhieni, eich brawd a’ch chwaer neu aelodau eraill o’ch teulu fod yn eithriadol bwysig ichi. Gelwir cael yr amser teuluol hwn weithiau yn ‘cysylltiad’. Penderfynir fel arfer ar ba mor aml, pa bryd a ble rydych yn gweld eich teulu gan y llysoedd; ond, sut bynnag y caiff ei benderfynu, dylid gwrando ar eich barnau a dylid eu cymryd i ystyriaeth.
Yr hawl i gynllun gofal a chynllun llwybr
Dylai cynllun llwybr fod ar waith erbyn yr adeg rydych yn 16 oed. Dylid addasu hyn o’ch cynllun gofal a rhoi ystyriaeth i’r hyn y bydd arnoch ei angen pan ydych yn 16 oed. Dylid adolygu’ch cynllun o leiaf bob chwe mis.
Yr hawl i wneud cŵyn
Mae hyn yn dipyn o ddewis olaf ar ôl i bopeth arall fethu, mewn gwirionedd. Gobeithio, bydd eich gofalwyr maeth, gweithiwr cymdeithasol, cynghorydd personol, swyddog adolygu annibynnol neu eiriolwr (gweler tudalennau 4 a 5) wedi gallu helpu i ddatrys beth bynnag yw’r broblem, ond mae gan bob awdurdod lleol drefnau cwyno y mae’n rhaid iddynt gadw atynt. Gallwch ganfod y drefn gwyno ar wefan yr awdurdod lleol. Neu gallwch ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol, eich cynghorydd personol neu’ch eiriolwr gael copi ichi.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhwng gwledydd sy’n nodi’r hawliau y dylai fod gan bob plentyn. Mae’n egluro pwy yw plant, eu holl hawliau, a chyfrifoldebau llywodraethau.
Mae’r holl hawliau yn gysylltiedig, maent i gyd yr un mor bwysig, ac ni ellir eu cymryd oddi ar blant.