Beth rydych yn ei feddwl o arian?
Darllenwch y tri dyfyniad hyn a meddyliwch am ba un sy’n disgrifio beth rydych chi’n ei deimlo am arian.
Y cwestiwn miliwn o bunnau
Pan ddaw hi’n fater o arian, mae yna fel arfer ddwy ochr i’r hafaliad – faint o arian rwyf yn ei wario a faint rwyf yn ei gynilo. Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sydd gan bobl ifanc (a phobl hŷn!) yw’r cwestiwn miliwn o bunnau: ‘Sut y gallaf gynilo mwy o arian?’.
Mae yna bedair prif ffordd o helpu’ch arian i ledaenu ymhellach, gan olygu y gallech gynilo ychydig ar hyd y daith, hefyd:
- Gwario llai!
Gall hyn deimlo’n ddyrys yn ystod argyfwng ‘costau byw’, ond drwy wirio a chymharu prisiau’n ofalus, defnyddio talebau a diddymu unrhyw danysgrifiadau nas defnyddir, gallwch wneud i’ch arian fynd ymhellach. - Ei ennill o.
Wrth gwrs, bydd arnoch eisiau/angen gwario rhywfaint o’ch enillion ar eitemau a phethau hanfodol rydych yn eu mwynhau, ond mae rhoi ychydig yn eich cyfrif cynilo bob tro y cewch eich talu neu rydych yn derbyn arian yn syniad da os gallwch. - Gwerthu pethau.
Mae gwerthu eitemau diangen yn ffordd wych o gael gwared ag annibendod a gwneud arian ychwanegol. Mae yna gynifer o wefannau ac apiau y gallwch werthu drwyddynt, ond bydd gofyn ichi fod yn ofalus i sicrhau eich bod yn ennill arian ac nid yn ei golli. Gwiriwch yr erthygl hon. - Rhoddion.
Yn hytrach nag anrhegion, efallai y gallech ofyn am arian ar gyfer eich pen-blwydd neu ryw achlysur arbennig arall.
Mae gwybod lle y caiff pob punt ei gwario yn gam cyntaf gwych i gynilo arian. Gwiriwch y canllaw cynllunio cyllideb MoneyHelper i’ch helpu i wneud hynny.
Myfyriwch: Sut rydych yn defnyddio’ch arian?
Petai’n rhaid ichi ddisgrifio sut y byddech yn dewis defnyddio’ch arian, pa un o’r rhain y byddai?
-
Gwariwr
Mae gwarwyr yn byw yn y Gwariwr presennol, yn gwneud penderfyniadau wedi’u seilio ar eu hapusrwydd heddiw ac nid ydynt yn meddwl llawer am y dyfodol.
-
Amddiffynnydd
Mae amddiffynwyr yn hoffi teimlo’n ddiogel. Maent yn gwneud penderfyniadau gyda’r dyfodol mewn golwg, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod yn ddarbodus heddiw.
-
Rhoddwr
Mae rhoddwyr yn hoffi helpu pobl a theimlo’n hael, hyd yn oed os yw hynny’n golygu nad ydynt bob amser yn diwallu’u hanghenion eu hunain.
-
Buddsoddwr
Mae buddsoddwyr yn gweithio’n galed i adeiladu ar gyfer eu dyfodol, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod dan straen oherwydd eu bod yn canolbwyntio cymaint ar dwf.