Lle i fynd i’r ysgol, pa ddilladau rydych yn eu gwisgo, pa ffôn rydych yn ei ddewis, sut y gallech deithio, lle rydych yn byw – yn y rhain i gyd, ac mewn cynifer o bethau eraill, mae gan arian rôl hanfodol. Gall pryderu am arian effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch perthnasoedd, ac felly mae dysgu sut i ofalu amdano yn sgil bywyd hanfodol.

Rydym i gyd mewn sefyllfaoedd ariannol gwahanol, ond mae’n bwysig gwybod, beth bynnag yw’ch statws ariannol cyfredol, y gall pethau newid ac na ddylech ganiatáu i’ch cyllidau eich atal rhag cael breuddwydion mawr ar gyfer y dyfodol.

Mae deall arian, sut i gyllidebu, lle i’w gael, sut i’w arbed a pha gymorth sydd ar gael ichi oll yn bwysig iawn. Fe’i gelwir ariannol alluog yn bod yn , ac mae arnoch wir angen bod. Efallai yn wir bod eich ysgol yn eich cefnogi gyda hyn (ac mae’r cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru yn golygu y bydd yn rhaid iddynt), a disgwylir i’ch gofalwyr maeth eich helpu i reoli’ch arian. Dylid hefyd siarad am allu ariannol yn eich cynllunio llwybr.

Dechrau arni...

Dyma rai adnoddau gwych i’ch helpu i wella’ch gallu ariannol:

A wyddech?

Mae gan bobl ifanc sy’n derbyn gofal yn barhaus am fwy na blwyddyn gyfrif cynilo cyfnod hir wedi’i agor ar eu rhan gan y llywodraeth (sy’n rhoi £200 ym mhob un cyfrif pan y’i hagorir). Mae’r Share Foundation yn gofalu am y cyfrifon hyn tan y bydd person ifanc yn cyrraedd 18, pan fo mynediad a rheolaeth o’r cyfrif yn trosglwyddo iddyn’ nhw.

Gallai’r cynllun cynilo fod yn ISA Iau neu’n Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, ond y naill ffordd neu’r llall, bydd yna rywfaint o gynilion yn bodoli ichi. Gallai faint o arian a gynilir ac o le y daw’r arian hwnnw amrywio, er bod llawer o wasanaethau maethu yng Nghymru yn gweithio tuag at swm o gynilion y cytunwyd arnynt fesul plentyn.

Mae rhai gwasanaethau maethu’n mynd â’r cynilion yn uniongyrchol o’r lwfans y mae gofalwyr maeth yn ei dderbyn, ac mae eraill yn cyfrannu cronfeydd ychwanegol i helpu i adeiladu’r cyfrif cynilo ar gyfer pan fo ar berson ifanc angen cael ato. Anogir gofalwyr maeth a phobl ifanc i gyfrannu tuag at y cyfrifon hyn, hefyd.

Canfyddwch fwy o wybodaeth