Os ydych yn ymgeisio i fynd i brifysgol, mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn ticio’r blwch ar eich ffurflen UCAS i adael i’r brifysgol wybod bod gennych brofiad o fod mewn gofal fel y gallwch gael y cymorth ychwanegol y mae gennych hawl iddo.

Mae gan CLASS Cymru lawer o awgrymiadau a chynghorion i fyfyrwyr yng Nghymru sydd â phrofiad gofal ynglŷn â gwneud ceisiadau, bywyd myfyriwr a graddio.

Bydd gan bob prifysgol ei phroses ei hun a chymorth i fyfyrwyr â phrofiad gofal; gall rhai gynnwys:

  • Cynnig mynediad is
  • Cymorth ariannol ychwanegol
  • Lle gydol y flwyddyn mewn llety prifysgol.
Female holding text books

Gallwch chwilio i weld pa gymorth y mae unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Unedig yn ei gynnig i fyfyrwyr sydd â phrofiad gofal ar wefan Propel in Education .

Unwaith rydych wedi cyflwyno’ch ffurflen UCAS, bydd y tîm derbyniadau yn y brifysgol yn cysylltu â chi i drafod yr opsiynau cymorth sydd ar gael ichi.  Mae gan lawer o brifysgolion yr opsiwn i chi ddweud bod gennych brofiad gofal, unwaith y bydd y cwrs wedi dechrau, os nad ydych eisoes wedi ticio’r blwch.

Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am sut mae ticio’r blwch yn datgloi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd â phrofiad gofal yn ein blog yma.