Mae tystiolaeth yn awgrymu bod yna bum cam y gallwch eu cymryd i wella’ch iechyd a lles meddwl.

Gallai ceisio gwneud y pethau hyn eich helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol ac yn alluog i gael y fantais fwyaf o fywyd.

  1. Cysylltwch â phobl eraill – ceisiwch fagu perthnasoedd cryfach ac agosach.
  2. Byddwch yn gorfforol egnïol – gall helpu’ch lles corfforol a meddyliol.
  3. Dysgwch sgiliau newydd – gall sgil newydd roi hwb i’ch hyder, rhoi ymdeimlad o ddiben ichi a’ch helpu i ennill cyfeillion newydd.
  4. Rhowch i eraill – gall gweithredoedd o garedigrwydd greu teimladau cadarnhaol ac ymdeimlad o wobrwyo.
  5. Rhowch sylw i’r adeg bresennol (ymwybyddiaeth ofalgar) – mae hyn yn cynnwys eich meddyliau a’ch teimladau, eich corff a’r byd o’ch amgylch.

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am y pum cam hyn yn:

5 cam i les meddwl

Rhai adnoddau llesiant buddiol

Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar

Gall hyn fod yn ffordd wirioneddol fuddiol o ofalu am eich iechyd meddwl. Gall dod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau eu hatal rhag yn sydyn eich gorlethu. Dyma ddwy dudalen we ddefnyddiol am ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.

Cynghorion ymwybyddiaeth ofalgar Sut rwy'n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar i wella fy iechyd meddwl

Adnoddau Cysylltiedig