Nid oes llawer o bobl ifanc yn barod i fyw’n annibynnol pan fônt yn cyrraedd 18 oed, ac felly mae meddwl am ble rydych am fyw wedi ichi gyrraedd 18 fwy na thebyg yn un o’r penderfyniadau mwyaf y mae’n rhaid ichi’i wneud wrth ichi ymadael â gofal. Ond peidiwch â phryderu, mae yna lawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ichi.
Beth yw fy newisiadau?
Mae yna lawer o opsiynau, yn amrywio o barhau i fyw gyda’ch gofalwyr maeth o dan drefniant Pan Fydda i’n Barod (rhywbeth sy’n bendant yn werth meddwl amdano, hyd yn oed os ydych yn ffansïo’r syniad o fyw ar eich pen eich hun) neu lety â chymorth, i gael eich lle eich hun neu ddychwelyd at eich teulu biolegol. Nid yw pob un o’r opsiynau ar gael ym mhob ardal, ac felly dylech ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch cynghorydd personol roi’r wybodaeth ichi ac egluro’ch holl ddewisiadau ichi
Pan Fydda i’n Barod
I lawer o bobl ifanc, mae dal i fyw gyda’u gofalwyr maeth ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed yn ddewis gwirioneddol wych. Os oes arnoch chi a’ch gofalwyr maeth eisiau hyn, yna mae’n rhaid i’ch awdurdod lleol wneud iddo ddigwydd. Gallwch aros gyda’ch gofalwyr maeth o dan drefniant Pan Fydda i’n Barod tan y byddwch yn 21 oed, neu hyd at 25 oed os ydych yn cwblhau rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni. Golyga hyn na fydd yn rhaid ichi bryderu am symud tra eich bod yn ymdrin â phethau pwysig eraill, megis mynd i goleg neu ddechrau ar swydd.
Os ydych yn penderfynu mynd am Pan Fydda i’n Barod, bydd eich gweithiwr cymdeithasol, eich gofalwr maeth a chithau’n cwblhau trefniant Cyd-fyw sy’n gytundeb ynglŷn â’r nodau y mae arnoch eisiau’u cyflawni, y ffiniau a’r rheolau o gyd-fyw mewn lleoliad Pan Fydda i’n Barod.
Cyn ichi symud allan
Os ydych yn ymadael â lle’ch gofalwyr maeth, yna cyn ichi symud i rywle newydd, mae ar wasanaethau plant angen:
- Rhoi ystyriaeth i’ch anghenion a’ch barn am ble mae arnoch eisiau byw;
- Ystyried sut mae’r lleoliad yn diwallu’ch anghenion a materion diogelwch y llety newydd, yn ogystal â ph’un a allwch fforddio costau rhedeg y lle;
- Trefnu ichi ymweld â’r llety newydd.
Mae ar wasanaethau plant angen bod yn rhesymol wrth benderfynu gyda chi ymhle rydych yn mynd i fyw – ond nid yw hyn yn golygu y byddant yn cytuno â chi bob amser!
Mae gan bob awdurdod lleol weithwyr adran tai sy’n arbenigwyr mewn trin a thrafod materion tai ar gyfer pobl ifanc. Canfyddwch enw’r person sy’n gyfrifol am eich helpu â’ch materion tai. Os ydych yn cael trafferth gwneud hynny, gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol neu i’ch cynghorydd personol ganfod ichi.
I gael cyngor a chymorth ychwanegol, ffoniwch y Llinell Gymorth Cyngor ynglŷn â Thai ar 08000 495 495 neu ewch i sheltercymru.org.uk.