Sut rwyf yn gwneud cynllun?

Dyma 10 cwestiwn i’w gofyn i chi’ch hun i sicrhau nad yw’r cynllun ond yn rhywbeth sy’n digwydd, ond mai hwn yw’r cynllun iawn i chi a’ch dyfodol.

  1. A ddylwn i fod wedi dechrau ar fy nghynllunio llwybr?

    Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn, dylai fod gennych gynllun llwybr.

  2. A wrandewir arnaf i?

    A ydw i wedi cael llawer o gyfle i ddweud wrth fy nghynghorydd personol neu fy ngweithiwr cymdeithasol beth yw fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol, a pha gymorth a gredaf y gallai fod arnaf ei angen i wireddu’r cynlluniau hynny?

  3. A ydw i’n gwybod i ble y gallaf fynd am gymorth os credaf na wrandewir arnaf?

    Ewch i’n tudalen adnoddau ar gyfer rhestr o leoedd y gallwch droi atynt os oes arnoch angen cymorth ychwanegol.

  4. A oes gennyf yr holl wybodaeth y mae arnaf ei hangen i deimlo’n wybodus ac i wneud penderfyniadau am fy nyfodol?

    Os nad oes gennych, gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch cynghorydd personol.

  5. A yw fy ngofalwyr maeth yn gysylltiedig â fy nghynllun, fel eu bod yn gallu lleisio barn drosof?

    Os nad yw’ch gofalwyr maeth, pwy arall a allech ofyn iddynt leisio barn drosoch?

  6. A ofynnwyd i’r holl bobl iawn am ba gymorth y bydd arnaf ei angen wrth imi symud i fod yn annibynnol?

    Dylasid fod wedi gofyn iddynt.

  7. A yw fy nghynllun yn ymdrin ag iechyd, addysg, hyfforddiant, sgiliau, cyflogaeth, arian, hunaniaeth, perthnasoedd a lletyau?

    Fe ddylai!

  8. A yw fy nghynllun yn dweud beth ydw i am iddo’i ddweud go iawn? Os nad ydyw, a wn i beth i’w wneud?

    Dylech ond llofnodi’ch cynllun pan ydych yn fodlon â’r hyn y mae’n ei ddweud.

  9. A oes gen i gopi o fy nghynllun?

    Dylai fod gennych – a pheidiwch ag anghofio gofyn am gopi wedi’i brintio os hoffech gael copi felly.

  10. A ydw i’n gwybod pa bryd y bydd y cynllun yn cael ei adolygu?

    Dylai hyn ddigwydd o leiaf bob chwe mis.

Cyngor gwych

Mae’ch cynllun llwybr yn ddogfen gyfreithiol. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi copïau ichi o:

  • Canlyniadau’r asesiad o’ch anghenion;
  • Y cynllun llwybr;
  • Unrhyw adolygiad o’ch cynllun llwybr.

Ac mae’n rhaid iddynt sicrhau bod yr holl ddogfennau hyn wedi’u hegluro ichi mewn ffordd rydych yn ei deall.

COFIWCH: Dyma’ch cynllun llwybr CHI, ac felly mae’n rhaid iddo ddweud beth mae arnoch chi’i eisiau a sut mae arnoch chi eisiau cael eich cynorthwyo.

Cyngor gwych

Wrth ichi ddiwygio’ch cynllun, sicrhewch eich bod yn anfon e-bost at eich gweithiwr cymdeithasol neu’ch cynghorwr personol (yn ogystal â siarad â nhw) ynglŷn â rhywbeth sy’n ymwneud â’ch cynllun llwybr, yna bydd yr e-bost yn dystiolaeth os bydd arnoch ei angen.