Yr hyn i’w gynnwys

Bydd ar eich awdurdod lleol eisiau trosi’ch cynllun gofal a chymorth i fod yr hyn y bydd rnoch ei angen i weithio tuag at fyw’n annibynnol. Byddant yn cwblhau asesiad, ac wedyn caiff eich cynllun llwybr ei ddrafftio gan ddefnyddio canlyniad yr asesiad hwnnw. Dylai ynnwys yr holl bethau hyn:

  1. Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

    Beth yw nodau’ch gyrfa a sut y cewch eich cynorthwyo i’w cyflawni nhw? A oes arnoch angen mynd ar gwrs neu a oes arnoch angen offer arbenigol? Beth am sgiliau ymarferol eraill, fel cynllunio bwydlen neu goginio?

  2. Eich teulu a rhwydwaith cymdeithasol

    Sut mae gwasanaethau plant am eich helpu i fagu a chadw perthnasoedd da â phobl sy’n bwysig ichi? Eich cyfeillion, teulu a gofalwyr maeth?

  3. Arian

    Dylai’ch cynllun llwybr ddweud beth sydd gennych hawl iddo, faint fydd yn ei gostio, a pha bryd y byddwch yn ei gael. Dylai fod yna gynllun hefyd ar gyfer cyllidebu a sut y gallech arbed arian ar gyfer y dyfodol.

  4. Hunaniaeth

    A oes arnoch angen unrhyw gymorth ychwanegol ynglŷn ag iaith, crefydd a chyfeiriadedd rhywiol? A oes gennych yr holl ddogfennau adnabod y mae arnoch eu hangen (e.e. eich pasbort)? Ac a wyddoch sut i gael at y ffeiliau amdanoch?

  5. Lle y byddwch yn byw

    Dyma un mawr. Dylai’ch gwasanaethau plant asesu’ch lle byw cyfredol a’r dyfodol yn rheolaidd i weld a yw’n addas i chi - mae hynny’n golygu lleoliad, diogelwch, rhent a biliau. Os nad ydych yn fodlon ar le rydych yn byw, dywedwch hynny.

  6. Iechyd

    Mae hyn yn ymwneud â sut y bydd gwasanaethau plant yn eich cynorthwyo i fod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Er enghraifft, a oes arnoch angen bod yn aelod o gampfa neu angen cymorth â mater iechyd?