P’un a yw perthnasoedd gyda’ch teulu, eich cyfeillion, eich gofalwyr maeth neu gariad, dylent wneud ichi deimlo’n dda!

Rhoddodd ein panel o bobl ifanc yn Ffynnu syniadau inni am beth sy’n gwneud perthynas yn iach neu’n niweidiol.

Someone creating a heart with their hands

Arwyddion da

  • Rydych yn treulio amser o ansawdd gyda’ch gilydd ond rydych hefyd yn hapus bod ar wahân
  • Maent yn gwrando arnoch pan ydych wedi’ch cynhyrfu
  • Rydych yn teimlo fel eich bod yn gallu bod fel chi’ch hun
  • Rydych yn deall eich gilydd
  • Rydych yn parchu’ch gilydd
  • Rydych yn cael hwyl gyda’ch gilydd

Arwyddion rhybuddio

  • Maent yn prynu llawer o anrhegion ichi – yn enwedig ar ôl ichi ffraeo
  • Maent weithiau yn gwneud ichi deimlo’n euog
  • Maent yn dreisgar tuag atoch
  • Maent yn genfigennus ohonoch
  • Maent yn galw enwau arnoch
  • Maent yn dweud celwyddau
Road warning sign
COFIWCH!

Mae pawb yn haeddu’i barchu, teimlo’n ddiogel a derbyn gofal.