Mae cael perthnasoedd cadarnhaol â’ch teulu, eich gofalwyr maeth a’ch cyfeillion yn wirioneddol bwysig.

Gwnânt eich helpu i deimlo’n dda amdanoch eich hun a rhoi’r gefnogaeth ichi y mae arnoch ei hangen, pan fo arnoch ei hangen. Ond os oes gennych broblemau mewn unrhyw un o’r perthnasoedd hyn, fe allech deimlo’n drist neu’n orbryderus.

Astudiwch y pwyntiau hyn i feddwl am p’un a oes ar unrhyw un o’ch perthnasoedd angen gofal a chariad addfwyn.

Gofalwyr maeth

Bydd gan eich gofalwr maeth neu’ch gofalwyr maeth ddylanwad aruthrol fawr ar eich bywyd. Mae byw gyda nhw yn rhoi man diogel ichi lle y gallwch ddatblygu’ch gwerthoedd, eich delfrydau a’ch strategaethau ymdopi eich hun. Mae’n bwysig bod y berthynas rhyngoch yn gyson a sefydlog. Gall straen gyda gofalwyr maeth fod oherwydd:

  • Helbulon ysgol: Mae’n rhaid ichi ymdrin â disgwyliadau llawer o wahanol bobl – eich gofalwyr maeth yn ogystal â’ch gweithiwr cymdeithasol, athrawon ac eraill. Gallai hyn beri drwgdeimlad rhyngoch chi a’ch gofalwyr maeth.
  • Barn yn gwrthdaro: Gallech ddadlau os oes gennych wahanol safbwyntiau ac fe allech deimlo nad yw’ch llais yn cael ei glywed.
  • Eisiau mwy o annibyniaeth: Gallech deimlo bod yr oedolion sydd o’ch amgylch yn ddigyfaddawd neu’n eich trin chi fel plentyn.
  • Newidiadau teuluol: Gall hi fod yn anodd addasu i gael eich gwahanu oddi wrth eich teulu, ac fe allech deimlo’n ddig, yn ddryslyd neu wedi’ch cynhyrfu.

 

Siaradwch am faterion beunyddiol â’ch gofalwr maeth – A GWNEWCH O BOB DIWRNOD!

Gall sgwrsio’n rheolaidd fagu cwlwm a all wneud i’r adegau anodd fynd heibio’n fwy llyfn. Pan fo’ch gofalwyr maeth yn teimlo’n gysylltiedig â’ch bywyd dyddiol, fe allant fod ar gael ichi pan fo rhywbeth gwirioneddol bwysig neu letchwith yn digwydd.

Siaradwch am rywbeth y gwnaethoch ei wylio ar Netflix. Rhannwch rywbeth a ddywedodd un o’ch athrawon. Gall hyd yn oed mân siarad am beth sydd ar gyfer swper gadw’ch perthynas yn gryf a chyfforddus.

Cyngor Gwych

Gyda llaw, os ydych yn teimlo bod arnoch angen cymorth i fynegi’ch barn wrth eich gofalwyr maeth, fe allai Gwasanaeth Eiriolaeth Cymru helpu.

Mae eiriolaeth yn golygu cael rhywun i wrando arnoch chi. Gall eich helpu i ddweud wrth y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am eich bywyd, beth rydych yn ei feddwl a sut rydych yn teimlo. Nid ydynt yn rhan o’r Gwasanaethau
Cymdeithasol, ond maent yn gweithio â phlant a phobl ifanc mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i TGP Cymru a nyas.net.

Cyfeillion

Gall hi fod yn anodd ennill a chadw cyfeillion, yn enwedig os ydych wedi symud o amgylch neu wedi newid ysgolion lawer. Gall straen gyda chyfeillion fod oherwydd:

  • Pwysau gan gymheiriaid: Gall yr ofn o deimlo eich bod yn cael eich allgàu olygu eich bod yn cael eich annog i roi cynnig ar weithgareddau niweidiol, megis goryfed mewn pyliau, ysmygu, neu gymryd cyffuriau.
  • Wedi ffraeo: Efallai eich bod wedi ffraeo gyda chyfeillion ynglŷn â rhywbeth gwirion neu rywbeth difrifol.
  • Cael eich maethu: Gallech deimlo fel petaech wedi colli cyfeillion os ydych newydd symud i ofal maeth ac nad ydynt yn deall eich bywyd mwyach.
Cyngor Gwych

Gallai’ch cyfeillion deimlo’u bod wedi’u hallgàu o’r holl bethau sydd wedi bod yn digwydd yn eich bywyd. Efallai hyd yn oed bod arnynt eisiau helpu ond mae arnynt ofn bod yn fusneslyd.

Rhannwch rai pethau am beth sydd wedi bod yn digwydd i chi – ond dim ond dywedwch wrthynt yr hyn rydych yn ei deimlo’n gyfforddus o’i ddweud. Efallai nad ydynt yn gwybod beth yw gofal maeth. Gallwch egluro eich bod yn dal i fod yr un cyfaill, ond dim ond eich bod yn byw â theulu arall, ac efallai bod gan eich gweithiwr cymdeithasol daflen y gallech ei rhoi iddynt. Sicrhewch eu bod yn gwybod eich bod yn gwerthfawrogi’u cymorth, a chymaint y mae’u cyfeillgarwch yn ei olygu ichi.

A ydych wedi meddwl am sgwrsio â’ch gofalwr maeth? Gofynnwch iddynt a allech wahodd eich cyfeillion i aros dros nos fel y gallant weld drostynt eu hunain nad yw’r lle rydych yn byw yn wahanol i le mae’ch cyfeillion yn byw.

Couple close together

Perthnasoedd rhamantus

Gall cael cariad fod yn beth ardderchog a dyrys yr un pryd. Gall straen gyda chariadon fod oherwydd:

  • Rhyw: Gall penderfynu os neu ba bryd i gael rhyw am y tro cyntaf fod yn ofid mawr. Sicrhewch fod yr holl ffeithiau gennych a pheidiwch â theimlo dan bwysau i wneud rhywbeth nad yw’n teimlo yn iawn.
  • Cydbwyso ymrwymiadau eraill: Gall dechrau ar berthynas o ddifri’ weithiau deimlo’n orlethol. Gall hi fod yn anodd dysgu ymdopi â’r ysgol a rhoi amser i’ch bywyd rhamantus, hefyd.
  • Gwahanu: Bydd gwahanu bob amser yn anodd ac yn eich cynhyrfu, ond mae’n bwysig eich bod yn teimlo eich bod yn gallu ymadael â pherthnasoedd anodd neu gynhyrfiol.
Cyngor Gwych

Cofiwch ddal i gyfathrebu â’ch cymar – nid oes yn rhaid i hyn fod yn ddim ond siarad, ond hefyd wneud pethau dymunol dros eich gilydd, chwerthin gyda’ch gilydd neu hyd yn oed sgwrsio ar-lein.