Colli’ch ffordd ar y rhyngrwyd
Mae’r rhyngwyd yn dda ar gyfer nifer o bethau – y clipiau YouTube yna o bobl yn gwneud castiau doniol, ffrydio eich hoff fandiau, cadw mewn cysylltiad, a llawer mwy. Ond yn anffodus, nid hwyl a sbri yw’r cyfan. Mae’n bwysig gwybod sut i gadw rheolaeth ar bethau ar-lein a chadw’ch hun yn ddiogel.
Perygl dieithriaid: ffrindiau newydd
Peidiwch ag ildio gormod
Mae’r rhyngrwyd yn rhoi cyfle i bobl guddio eu gwir hunaniaeth, felly mae perygl dieithriaid mor wir ar-lein ac y mae all-lein. Byddwch yn ddiogel ar bob adeg wrth rannu gormod o fanylion gyda rhywun nad ydych chi wir yn ei adnabod.
Sut alla i ddiogelu fy hun?
Os ydych chi’n sgwrsio gyda ‘ffrind’ ar-lein, p’un a yw hynny ar gyfryngau cymdeithasol neu’n chwarae gemau, os yw’n unrhyw beth gofyn i chi wneud sy’n gwneud i chi deimlo’n annifyr, dan bwysau neu bryderus, dywedwch wrth eich gofalwr maeth a gofyn am gyngor. Os nad yw’n teimlo’n iawn, gofynnwch am help. Peidiwch BYTH â chwrdd â rhywun rydych chi wedi gwneud ffrindiau â nhw ar-lein yn y byd go iawn heb ddweud wrth eich gofalwr maeth yn gyntaf a gwirio bod hynny’n iawn. Os byddwch chi’n cwrdd â rhywun, dewch a ffrind gyda chi a gwneud yn siŵr eich bod wedi rhannu enw a rhif ffôn y person gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.
Cadw pethau’n breifat: secstio
Meddyliwch eto
Secstio yw pan fyddwch chi’n rhannu delwedd noeth neu led noeth ohonoch eich hun, fel arfer ar eich ffôn symudol. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn lluniau noeth a dan bwysau i’w cadw neu rannu. Efallai ei bod yn i fod yn rhywbeth sy’n hwyl a ymddangos diniwed i’w wneud, yn arbennig os yw ar gyfer rhywun rydych chi’n ei hoffi, a’ch bod eisiau iddyn nhw eich hoffi chi. Ond meddyliwch amdano! Os yw wir yn eich hoffi – a’ch parchu – chi, ni fydd eisiau i chi gymryd risgiau gyda delwedd breifat ohonoch eich hun.
Pam all hyn fod yn niweidiol?
Yn gyntaf, oherwydd ei fod yn anghyfreithiol i rai dan 18 gymryd rhan mewn secstio. Gallwch hyd yn oed fynd i drafferth os byddwch chi’n bygwth rhannu delwedd fel hyn.
Ac yn ail, unwaith y byddwch wedi gwasgu ‘Anfon’, allwch chi ddim ei gael yn ôl – mae allan yn y byd i bawb ei weld. Gallai rhywbeth ddylai fod yn breifat yn hawdd iawn (ac yn chwithig iawn) ddod yn gyhoeddus a pharhaol. Hyd yn oed os ydych chi wedi anfon rhywbeth ar Snapchat, mae modd tynnu sgrinlun a’i gadw.
Pan ddaw i secstio, cofiwch – dydy’r risg ddim werth ei wynebu.
Golau, camera, symud!
Ffrydio byw Beth yw ffrydio byw?
Ffrydio byw yw pan fyddwch chi’n darlledu fideo byw i gynulleidfa dros y rhyngrwyd drwy ffôn deallus, tabled neu gyfrifiadur.
Beth yw’r risgiau?
Gallai rhywbeth sy’n ymddangos i fod yn ffordd ddiniwed i rannu talent neu fynegi eich hun yn fuan iawn eich rhoi mewn perygl. Mae hyn oherwydd na allwch chi reoli pwy sy’n gwylio a beth allai geisio eich gorfodi i wneud. Unwaith y byddwch wedi ffrydio’n fyw, does dim troi’n ôl a gall gwylwyr roi sylw a siarad yn uniongyrchol â chi – ac efallai na fyddwch chi’n hoffi beth fydd ganddynt i’w ddweud.
Meddyliwch cyn i chi ffrydio
Y ffordd orau i gadw’n ddiogel ar-lein yw peidio ffrydio’n fyw. Ond, os byddwch chi’n gwneud, gwnewch yn siŵr mai dim ond o le ble rydych chi’n teimlo’n ddiogel fyddwch chi’n gwneud hyn. Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n gofyn i chi symud i ofod negesu preifat. Os byddwch chi’n derbyn sylw neu ofynion digroeso, chwiliwch am gyngor ar unwaith gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt.
Os ydych chi wedi gwneud rhywbeth ar-lein ac yn edifarhau, peidiwch â dychryn – mae sawl peth y gallwch ei wneud:
- Os yw’n llun noeth, gofynnwch iddo gael ei ddileu.
- Peidiwch ag ateb bygythiadau.
- Siaradwch â’ch gofalwr maeth neu oedolyn arall yr ydych yn ymddiried ynddynt am sut ydych chi’n teimlo. Gallant hefyd eich helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf.
- Siaradwch yn ddienw â Childline ar 0800 1111.
Mae llawer o gyngor ar y wefan Thinkuknow.