Beth yw cyswllt? Onid beth rwyf yn ei alw’n ‘Amser i’r Teulu’ ydy o?

Cyswllt yw gweld neu fod mewn cysylltiad â’ch rhieni, brodyr a chwiorydd, modrybedd ac ewythrod, cefndyr a chyfnitherod, cyfeillion neu hyd yn oed cyn-ofalwyr maeth – pawb sy’n bwysig ichi.

Gall eich gweithiwr cymdeithasol a’ch gofalwyr maeth eich helpu i ddatrys sefyllfa’n ymwneud â chyswllt. Mae yna lawer o wahanol fathau – mewn canolfan gyswllt neu weithiau yn y gymuned, fel cerdded yn y parc neu yn McDonalds. Mae rhai pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, fel Instagram neu Snapchat, i gysylltu â’i gilydd.

Lady smiling on the phone holding a drink

Beth yw gorchymyn cyswllt?

Barnwr mewn llys sy’n gwneud gorchymyn cyswllt, ac mae hyn yn amlinellu pa aelodau o’ch teulu neu bobl bwysig eraill y dylech eu gweld neu gadw mewn cysylltiad â nhw. Gallai’r gorchymyn ddisgrifio sut y gallwch gadw mewn cysylltiad, megis drwy weld y naill a’r llall wyneb yn wyneb neu drwy lythyrau neu alwadau ffôn. Gall y barnwr hefyd ddweud y dylid goruchwylio cysylltiad gan rywun arall, megis eich gofalwr maeth neu weithiwr cymdeithasol.

Pa bryd y maent am wrando ar fy nheimladau ynglŷn â chyswllt?

Bydd eich cynllun gofal a chymorth yn cynnwys adran am gyswllt â’ch teulu, ac fe drafodir hyn fel arfer yn eich cyfarfod adolygu ‘plentyn sy’n derbyn gofal’. Bydd eich swyddog adolygu annibynnol yn siarad â chi cyn y cyfarfod i ganfod beth rydych yn ei feddwl o gyswllt.

Os nad ydych yn fodlon â’r trefniadau, fe allwch siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol neu â’ch gofalwr maeth unrhyw adeg.

Os oes arnoch angen cymorth i allu cyfleu’ch safbwynt, fe allai eiriolwr helpu.

Mae ar lawer o bobl ifanc eisiau cadw mewn cysylltiad â theuluoedd maeth y maent wedi bod byw gyda nhw o’r blaen. Cred Y Rhwydwaith Maethu fod hyn yn bwysig hefyd, ac maent yn ymgyrchu i sicrhau bod pob person ifanc yn cael eu helpu i gynnal cysylltiadau fel hyn.

Gwybyddwch eich hawliau!

Os ydych mewn gofal, mae gennych hawl i weld eich teulu a phobl eraill sy’n bwysig ichi. Ond fe all hyn ond digwydd os yw’n ddiogel i chi ac os ystyrir mai hyn yw’r peth gorau i chi yn gyffredinol.

Os oes arnoch eisiau cysylltu â theulu maeth blaenorol, gofynnwch i’ch gofalwyr maeth, eich swyddog adolygu annibynnol neu’ch gweithiwr cymdeithasol eich helpu.