Seeing your family can make you
experience a whole range of emotions.

 

 

 

Cyn cysylltiad, fe allech fod yn pryderu am bethau fel hyn:

  • ‘Am beth rydym am siarad?’
  • ‘Beth rydym am ei wneud?’
  • ‘A wnaf ei fwynhau o?’
  • ‘Pwy sy’n mynd i fod yno?’
  • ‘A wna fy mam fynychu heddiw?’
  • ‘A fydd yna unrhyw ffraeo?’

 

Ar ôl cysylltiad, fe allech gael y mathau hyn o deimladau:

  • ‘Rwyf yn teimlo’n hapus bod pethau wedi mynd yn dda.’
  • ‘Rwyf yn llawn cyffro ynglŷn â’r cysylltiad nesaf.’
  • ‘Mae’r pwysau o bryderu amdanynt wedi’i dynnu oddi ar fy ysgwyddau.’
  • ‘Rwyf wedi drysu oherwydd nid wyf yn gwybod pwy i’w gredu.’
  • ‘Rwyf wedi fy niflasu oherwydd roeddem yn cael hwyl ac yn awr dwi ddim yn gwybod beth i’w wneud.’
  • ‘Rwyf ar bigau’r drain ac wedi’m cynhyrfu.’

Mae’n normal teimlo’n nerfus cyn ichi weld pobl sy’n bwysig ichi. Gall paratoi’ch hun yn wirioneddol dda helpu.

Gallech deimlo’n emosiynol ar ôl cyfarfod â’ch teulu neu’ch cyfeillion, ac fe all hyn ei wneud yn wirioneddol anodd canolbwyntio yn yr ysgol neu ymlacio pan ewch adref.

A young girl sitting in the backseat of a car looking at her phone smiling with headphones on

Dywed Zoe:

‘Os ydych yn teimlo dan straen o flaen llaw, gwnewch rywbeth rydych yn ei fwynhau. Rwyf i’n gwrando ar gerddoriaeth.’

Dywed Ollie:

‘Canfyddwch gymaint ag y gallwch gan eich gweithiwr cymdeithasol ynglŷn â phwy sydd am fod yno, i le rydych am fynd a pha bryd y byddwch yn mynd adref.’

A teenage boy
Teenage girl and an adult sitting down talking

Dywed Tina:

‘Peidiwch â chronni pethau y tu mewn ichi. Sgwrsiwch â’ch teulu maeth ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd.’

Dywed Alun:

‘Rwyf yn hoffi mynd am dro hamddenol gyda’m gofalwr maeth wedyn.’

A young boy and a man walking together in a park talking