‘Nid oes yn rhaid ichi’i wneud i gyd ar eich pen eich hun’
Bethan Wilson yw’r Swyddog Datblygu Prosiect Paratoi yn Plant yng Nghymru (CiW) – y corff ymbarél cenedlaethol i sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. Mae rôl Bethan yn ymwneud â helpu pobl ifanc mewn gofal i baratoi ar gyfer annibyniaeth.
Rwyf yn gweithio ar Brosiect Paratoi Plant yng Nghymru, yn hyfforddi ac yn cefnogi pobl ifanc gyda’u sgiliau addysg ariannol, sgiliau annibyniaeth a hyder. Rwyf yn gweithio gyda phobl ifanc i greu adnoddau am agweddau niferus o adael gofal. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai, a gynlluniwyd gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc a gofalwyr maeth.
Roedd arnaf eisiau gweithio gyda phobl ifanc a dewisais wneud gwaith ieuenctid oherwydd ei fod yn fwy anffurfiol nag addysg, ac ni wnes fwynhau’r ysgol mewn gwirionedd. Symudais o’r cartref pan oeddwn yn ifanc iawn, ac felly ar yr ochr addysg ariannol o fyw annibynnol y mae fy angerdd i.
Rwyf wedi gweithio mewn hosteli ieuenctid, yn cynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol, a hefyd yn Ymddiriedolaeth y Tywysog (a adwaenir fel Ymddiriedolaeth y Brenin yn awr); ac felly, pan gododd y swydd hon, roedd yn ymddangos yn berffaith i mi a’m sgiliau.
Costau byw! Ond hefyd, rydym yn dal i ddelio ag effaith COVID a ddaeth â newidiadau i sut mae pobl ifanc yn dymuno ymgysylltu – cawsant oes o fod ar-lein, ond rydym yn ceisio cael pobl i gyfarfod wyneb yn wyneb i leihau arwahanrwydd a gorbryder cymdeithasol. Ac, wrth gwrs, mae gan gyfryngau cymdeithasol, er ei holl ragoriaethau, hefyd lawer o wendidau.
Credaf y gall byw ar eich pen eich hun eich helpu i ddatblygu cynifer o sgiliau, ond gall pethau ddirywio’n gyflym iawn os nad oes gennych y gefnogaeth a’r wybodaeth.
Mae’r prif sgiliau y credaf y mae ar bobl eu hangen i baratoi annibyniaeth yn gysylltiedig ag addysg ariannol. Mae’n swnio’n wirioneddol sychlyd, ond mae mor bwysig – cyllidebu, trethi, credyd, cyfraddau llog, Klarna, rhent, morgais, benthyciadau.
Hefyd, mae rheoli iechyd meddwl yn bwysig – rydym yn gweld cynnydd enfawr mewn gorbryder ac iselder, yn ogystal â hunanladdiad, yn enwedig ymysg gwrywod ifainc. Mae arnom oll angen bod yn ymwybodol o iechyd meddwl a gwybod lle i fynd i gael cymorth. A hefyd sgiliau cyflogadwyedd, fel cyfathrebu a gweithio fel tîm.
I bobl ifanc sy’n gadael gofal, y prif opsiynau yw trefniadau Pan Fydda i’n Barod, hosteli ieuenctid, eu llety eu hunain, mynd adref at deulu, neu symud at gyfeillion. Yn anffodus, i rai pobl, mae yna hefyd berygl o ddigartrefedd.
I rai pobl ifanc, gall symud o’r ardal y maent yn byw ynddi ar hyn o bryd i ddatblygu cylch cymdeithasol newydd fod yn well opsiwn; gall pobl ifanc eraill elwa o annibyniaeth, a chan hynny symud i’w cartref eu hunain. Fodd bynnag, gall Pan Fydda i’n Barod fod o fudd i berson ifanc; er enghraifft, pan fyddant yn mynd i addysg uwch neu’n dal i ystyried beth mae arnynt eisiau’i wneud.
Mae’r broses o lunio penderfyniadau yn gwir ddechrau trwy gael amryw o sgyrsiau â’r person ifanc, gan ystyried rhagoriaethau a gwendidau pob dewis o lety. Yn ddelfrydol, hoffwn i’r sgwrs hon ddechrau yn 15 neu’n 16 oed, sy’n anodd oherwydd ni fydd eu cyfeillion yn meddwl am hyn.
Pe gallwn newid un peth am ofal maeth, byddai arnaf eisiau rhoi mwy o amser i fwy o bobl wneud y penderfyniadau mawr mewn bywyd, fel mae pobl nad ydynt yn derbyn gofal yn ei gael. Ni ddylai’r un person ifanc orfod pryderu y gallant fod yn ddigartref neu’n byw mewn hostel pan gyrhaeddant 18 oed.
Gadawais gartref yn 17 oed, a dylaswn fod wedi codi fy llaw a gofyn am gymorth. Meddyliais y byddwn yn iawn, ond es i drafferthion, a gellid fod wedi osgoi hynny. Neges bwysig yw nad oes yn rhaid ichi wneud popeth ar eich pen eich hun.