Barn Arbenigwr

Mae Nicky Sneezum yn Gydgysylltydd Addysg dros Blant sy’n Derbyn Gofal (y cyfeirir yn aml ato fel LACE) yn Ne Cymru. Golyga hyn mai hi sy’n gyfrifol am wella deilliannau i ddysgwyr sy’n derbyn gofal, gan leihau rhwystrau sy’n atal dysgwyr rhag cyflawni’u llwyr botensial a helpu pobl ifanc sy’n byw mewn gofal i ddysgu ac i ddiwallu’u nodau addysgol. Mae ganddi lawer o brofiad o helpu plant a phobl ifanc i symud rhwng ysgolion.

Nicky, dywedwch ychydig yn fwy wrthym am eich swydd.

Mae’r rôl yn golygu popeth ac unrhyw beth pan ddaw hi’n fater o gydgysylltu addysg ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae’n rhaid imi gael bys ym mhob brywes, gan olrhain a monitro cynnydd … a gwthio pethau ymlaen pan fônt mewn picil.

Dechreuais yn y rôl hon 22 mlynedd yn ôl. Un o’r pethau rwyf wedi’i ddysgu yw ei bod hi’n hanfodol bwysig i bobl ifanc bontio’n ddi-dor ac yn llwyddiannus o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd os ydynt am wneud eu gorau’n ddiweddarach yn yr ysgol. Dysgais hefyd nad hyd yn oed canolb wyntio ar sgiliau llythrennedd a rhifedd yw’r ymagwedd gywir bob amser – mae’n rhaid inni fynd yn ôl i’r sylfeini, a sicrhau lles plant. Bu llawer o gynnydd yn ddiweddar wrth godi ymwybyddiaeth staff addysg o ddamcaniaeth ymlyniad, ac uwchsgilio yn y defnydd o ddulliau gweithredu a strategaethau penodol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i gynorthwyo plant i deimlo’n well amdanynt eu hunain ac i deimlo’n ddiogel fel eu bod yn y lle iawn i allu dysgu.

Y darn mwyaf gwerth chweil o fy swydd yw gwylio unigolion yn tyfu ac yn cyflawni’u nodau. Pan fo plant yn ddedwydd a phan fo ganddynt les personol da, yna gallant wneud cynnydd.

Beth ydych yn ei gredu sy’n neilltuol o heriol am bontio rhwng ysgolion i blant sy’n derbyn gofal?

Golyga pontio newid, a gall newid olygu colled, ac mae pobl ifanc sy’n derbyn gofal yn aml wedi profi mwy o newid a mwy o golled nag eraill. Maent wedi gorfod ennill cyfeillion newydd, a chyfarfod ag athrawon ac amgylcheddau
newydd yn amlach.

Maent hefyd yn gorfod ymdrin ag adrodd eu stori eto, ac mae hyn yn golygu cynllunio’r hyn y maent am ei rannu, gyda phwy a sut – oherwydd unwaith y byddwch wedi rhyddhau’r wybodaeth honno, rydych wedi colli rheolaeth arni. A gall pobl ifanc sy’n symud ysgol hefyd symud cartref a theulu yr un pryd, a gall hynny fod yn ingol iawn.

Gellir gwneud pontio’n haws drwy ymweld ag ysgolion o flaen llaw, ac ymarfer trefnau newydd a chynlluniau teithio. Gellir cael cynlluniau pontio gwirioneddol dda yn ymwneud â’r ddwy ysgol, yn cynnwys gwiriadau gan staff yr hen ysgol ar ôl i’r plentyn symud. Mae cynllun pontio da yn adlewyrchu’r person ifanc unigol, ac mae hynny’n golygu dod i adnabod y person ifanc a chlywed ei farn. Byddwn hefyd yn awgrymu bod gofalwyr maeth yn helpu i greu llyfr atgofion o gyfnod y person ifanc yn ei ysgol flaenorol.

Ac a oes gennych neges iddarllenwyr Ffynnu?

Mae arnaf eisiau ichi deimlo eich bod wedi’ch grymuso i wybod y gallwch lwyddo’n wirioneddol. Dylech wneud defnydd o’r bobl o’ch amgylch – gofalwyr maeth, cyfeillion ac yn y blaen. Lleisiwch eich barnau a’ch dymuniadau – dywedwch wrth berson yr ymddiriedwch ynddo a gofynnwch iddynt siarad ar eich rhan, os bo angen.

Dyheuwch am rywbeth. Gall addysg fod yn llwybr ichi i’r nodau hynny. Os eich nod yw bod yn hapus, yna gofynnwch i’ch hun, “Sut ydw i’n helpu fy hun i deimlo’n hapus heddiw?”.

Adnoddau Perthynol

Os yw’ch addysg neu’ch iechyd meddwl yn ar eich meddwl byth a beunydd, gall yr adnoddau hyn fod yn fan buddiol i ddechrau