‘Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol’
Mae Rachel yn 16 oed, ac mae wedi bod mewn gofal ers bron i dair blynedd, a chafodd, gan mwyaf, brofiad cadarnhaol. Yma, gofynnwn iddi am rai o’r materion rydym wedi ymdrin â nhw yn y rhifyn hwn o Ffynnu…
Mae gen i un chwaer a phum brawd – dyna lawer o frodyr! Nid wyf wedi bod mewn gofal maeth mor hir â hynny, ond mae fy mrodyr a’m chwiorydd wedi bod mewn gofal yn llawer hwy, ac felly gwyddwn yn gyson beth yw gofal. Mae fy mhrofiad gofal wedi bod yn eitha’ da. Teimlaf fel petai pobl wedi gwrando ar fy syniadau ynglŷn â’r hyn y byddwn ac na fyddwn yn hoffi iddo ddigwydd imi.
Rwyf hefyd yn rhan o’r Grŵp Hope, sy’n grŵp i enethod a ddaw o sefyllfaoedd teuluol gwahanol, yn cynnwys bod mewn gofal. Mae’n codi ymwybyddiaeth o brofiad gofal, mae’n ymgyrchu dros newid, ac rwyf yn cael cyfarfod â phobl eraill a gafodd brofiadau cyffelyb i mi.
Nid oes gen i gynllun llwybr eto, ond credaf y bydd gen i gynllun yn o fuan. Gwn y byddaf fwy na thebyg, pan fyddaf yn 18 oed, yn aros gyda fy ngofalwr cyfredol, fydd yn beth dymunol. Meddyliais am opsiynau eraill, ond gwn fod gen i yn bendant rywle i fyw. Mae arnaf eisiau mynd i’r coleg, wedyn i brifysgol, ac yn y dyfodol, hoffwn wneud rhywbeth gyda gwyddoniaeth.
Rwyf yn eitha’ da gyda fy arian a chyda’i arbed. Mae trin a thrafod fy arian fy hun yn caniatáu imi weld beth sy’n digwydd mewn gwirionedd gyda fy nghyllidau, ac felly mae wedi bod yn ffordd dda o ddysgu cyllidebu. Nid oes gen i swydd â thâl, ond rwyf yn gwirfoddoli yn y siop elusen leol bob dydd Sadwrn.
Nid oes yna gymaint o bwysau arnoch â sydd yna mewn swydd go iawn, a dysgais lawer o sgiliau – sut i ddefnyddio til, sut i ageru dillad, gwneud rhifyddeg yn eich pen, mynd yn hyderus wrth siarad gyda phobl. Mae’n dda i’ch hunan-barch ac rydych yn cael cyfarfod â chynifer o bobl.
I gynnal iechyd meddwl cadarnhaol, cerddaf ar y traeth. Gartref, os teimlaf yn bryderus, ceisiaf siarad gyda fy ngofalwr, ac mae hynny’n peri imi deimlo’n llawer gwell. Mae gwrando ar gerddoriaeth yn fy ngwneud yn ddedwydd –
dyma un o fy hoff bethau i’w wneud. Rwyf yn hoffi gwrando ar hen gerddoriaeth o’r 60au a’r 80au, er nad oes llawer o bobl fy oedran i yn ei hoffi.
Yn ddiweddar, dechreuais ddysgu crosio ac wedyn gobeithiaf gamu ymlaen i wau. Byddai’n cŵl gallu gwneud pethau.
Pe gallwn newid un peth am ofal maeth, hoffwn i weithwyr cymdeithasol ymweld â phlant maeth yn amlach i wirio bod popeth yn iawn, a’u bod yn cael eu haddysgu am yr holl sgiliau y mae arnynt eu hangen ar gyfer annibyniaeth. Nid yw’n ddigon dim ond gofyn a yw popeth yn iawn, ond yn hytrach dylid gwirio i sicrhau bod popeth yn iawn a bod eu holl hawliau’n cael eu bodloni.
Dywedwn wrth berson ifanc a ddaw i ofal y gall hi fod yn beth cynhyrfus iawn, ond os cewch ofalwr sy’n cydweddu â chi, yna gall fod yn brofiad cadarnhaol. Teimlaf fel petawn wedi fy mharu’n dda â fy ngofalwr.
Dywedwn wrth ofalwyr maeth am geisio gwneud i’r person ifanc deimlo’n gartrefol, gwrandewch ar yr hyn y mae arnynt ei eisiau, a chaniatewch iddynt dreulio amser ar eu pen eu hunain pan gyrhaeddant y tro cyntaf. Gwnaeth fy ngofalwyr imi deimlo’n wirioneddol gyfforddus. Cofiaf inni fynd i siopa am ddillad a chefais ddewis dillad newydd. Roeddwn yn nerfus am yr ychydig ddyddiau cyntaf, ond wedyn dechreuodd pethau ymdawelu ac ymgartrefais ychydig yn fwy.