Tilley Young Person who used to be part of the Wales Youth Advisory Board

Mae arnaf eisiau bod yn enwog am wneud newid

Drwy’i gwaith gyda Voices from Care Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwaith Ieuenctid Cymru, mae Tilley yn defnyddio’i phrofiad ei hun o ofal i sicrhau bod barnau a safbwyntiau pob plentyn a pherson ifanc mewn gofal yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt. A hithau ar hyn o bryd yn astudio am Radd mewn gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol, mae Tilley yn rhannu rhai o’i syniadau yma am pam mae hawliau plant mor bwysig…

Erthygl 12 – yr hawl i fynegi’ch barn a’i bod yn cael ei chymryd o ddifri’ – yw fy hawl plant pennaf oll! Pan oeddwn mewn gofal, roeddwn yn gweiddi’n uchel, ac felly cawn fy nghlywed, ond ni theimlaf y gwrandawyd go iawn arnaf. Er enghraifft, pan es i ysgol breswyl, ni wnaeth neb drafod gyda mi am a oedd arnaf eisiau mynd yno. Petawn yn gwybod bryd hynny beth rwyf yn ei wybod yn awr, gallwn fod wedi eistedd yn y cyfarfodydd a dyfynnu Erthygl 12 yn hytrach na gwneud dim byd!

Credaf mai’r rheswm pam nad yw rhai awdurdodau lleol yn gadael i blant wybod eu hawliau yw eu bod yn credu y gallant ddefnyddio’r wybodaeth honno yn eu herbyn. Ond os oes arnoch eisiau i bobl ifanc fod yn gallu lleisio’u safbwyntiau a’u barnau mewn ffordd oedolyn, yna mae arnoch angen gweithredu er eu lles gorau. Dywedwn wrth berson ifanc a ddaw i ofal – ymladdwch dros bopeth rydych yn credu ynddo.

Os ydych yn credu yn rhywbeth, peidiwch â rhoi’r gorau iddi.

Mae’n rhaid i hawliau fod ym mhobman

Mae’n rhaid hyrwyddo hawliau plant. Mae’n rhaid i CCUHP fod ym mhobman. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn sylweddoli y gallant ddefnyddio’r hawliau ar gyfer eu pŵer.

Pan ddaw plant i ofal, dylent gael pecyn sy’n egluro sut i gymryd rhan yn eu gofal ac sy’n dweud wrthynt am eu hawliau yn CCUHP. Dylai fod yna weithdai ynglŷn â’u hawliau, a dylid annog pobl ifanc i gymryd rhan yn eu cymuned.

Breuddwydio am newid y byd

Mae gen i freuddwydion mawr ac ni wnaf ildio tan y cyrhaeddaf fy nod. Mae arnaf eisiau cael fy Ngradd a bod yn weithiwr ieuenctid cymunedol, yn cynorthwyo pobl ifanc. Nid oes arnaf eisiau bod yn enwog fel seren bop, ond mae arnaf eisiau bod yn enwog am wneud newid, am adeiladu cymuned ac am ddangos cariad ac angerdd i bawb. Roedd arnaf angen rhywun felly – mae ar bawb angen rhywun felly.

Dywedwn wrth bob oedolyn sy’n gysylltiedig â bywyd person ifanc: dylai pob plentyn gael y cyfle i gael ei glywed a’i ddeall, a’i helpu i ddatblygu’i botensial llawn. Mae arnoch angen cyfathrebu â phobl ifanc. Ymgysylltwch â nhw a deallwch nhw. Wedyn, os na all person ifanc gael beth mae’n gofyn amdano, gallwch egluro iddo pam mae felly y mae hi, a gwneud penderfyniadau gyda’r person ifanc, ac nid dim ond drosto.

Byddwch yn gyfoes â newyddion!

Gallwch gadw’n gyfoes â’r hyn y mae Tilley yn gweithio arno ar hyn o bryd drwy fynd i’w thudalen Facebook:
www.facebook.com/BLoudBProud

Cydnerthedd (Resilience) – cerdd gan Tilley

Daeth heb adnabyddiaeth ac adeiladodd wal o amgylch fy nghalon

Gan gadw allan egni dieflig, eisteddodd gyda mi yn y tywyllwch.

Mae wedi fy nhynnu drwy’r hunllefau ac fe roddodd fy sbardun eithaf imi

Nerth fel rhyfelwr, meddent

Ond rydych yn gweld, nid hynny yw hyd yn oed y dechreuad.

Mae pobl yn cwestiynu sut mae’n bosibl, adeiladu cyfnerthedd yn ein hieuenctid

Ond rydych yn gweld, dyna beth a’m gwnaeth i

Y pŵer hwn y gallwn ei ddefnyddio.

Felly, addysgwch eraill o’ch cwmpas, bod bywyd yn eitha’ caled

Ond gydag ychydig o gydnerthedd

Mae’n sicr o wastatáu

(Tilley, 2023)

Adnoddau Perthynol

Eisiau dysgu mwy am eich hawliau o fewn gofal maeth? Bydd y pyst hyn yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth.