Sefydlwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu un man sy’n cwmpasu popeth, o arian poced i bensiynau.
Mae Lee Phillips yn gweithio i MaPS yng Nghymru, ac felly mae hi’n berson ardderchog i roi awgrymiadau a chynghorion gwych inni am arian…
- ‘Mae rhai pobl yn credu eu bod yn anobeithiol gydag arian, ond dim ond oherwydd nad ydych wedi bod yn dda gydag arian yn y gorffennol, nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid i bethau fod felly yn y dyfodol. Wrth ichi dyfu ac mae’ch bywyd yn newid, gallai’ch agwedd tuag at arian hefyd newid.
- ‘Mae arnoch angen meddwl am y gwahaniaeth rhwng y pethau y mae arnoch eu heisiau a’u hangen. Bydd hyn yn eich helpu i gyllidebu, sy’n bwysig iawn. Mae pob un ohonom yn gwneud camgymeriadau gydag arian, ond po gyntaf y gallwn wneud y camgymeriadau hyn a dysgu oddi wrthynt, y lleiaf o siawns sydd yna o wneud camgymeriad a allai gael effaith gyfnod hir arnom.
- ‘Mae pawb yn pryderu am godiadau mewn costau byw. Byddwn i’n awgrymu siarad am arian – po fwyaf y siaradwn amdano a chwalu’r tabŵ, y mwyaf y gallwn rannu’n pryderon a chael y cymorth y mae arnom ei angen.
- ‘Os ydych yn ei chael hi’n anodd parhau i dalu biliau a thaliadau, peidiwch â phryderu – nid ydych ar eich pen eich hun. Rydym yn helpu cannoedd o filoedd o bobl gyda phryderon tebyg bob blwyddyn. Gallwch gysylltu ag arbenigwr a chanfod cyngor cyfrinachol, am ddim gan ddefnyddio’n hoffer lleoli cyngor ynghylch
dyled MoneyHelper am ddim.
Cynghorion gwych Lee
- Os gallwch gyda’ch arian yn awr, yna byddwch yn ei chanfod hi’n haws taro’r nodau arian mawr hynny yn ddiweddarach mewn bywyd.
- Dechreuwch ar y llwybr iawn – dowch i ddeall pa arian sydd gennych yn dod i mewn, beth sy’n cael ei wario ac i beth y mae gennych hawl, ac wedyn lluniwch gyllideb. Gall gwneud cyllideb wythnosol eich helpu i gael darlun mwy eglur o’r costau y mae arnoch angen eu talu.
- Darllenwch ein canllaw ynglŷn â chynnal eich hun yn ariannol.
- Os gallwch, ceisiwch ddatblygu’r arfer o gynilo. Mae rhoi arian o’r neilltu’n rheolaidd ar gyfer eich bywyd yn y dyfodol yn arfer da i’w ddatblygu, ac mae’n rhoi crochan o arian ichi’i ddefnyddio mewn argyfwng, ond yn bwysicach na dim, mae’n eich cael i ddod i arfer â chynilo.
- Gwiriwch a oes gennych Gronfa Ymddiriedolaeth – gallai fod yna dros £1,000 yn aros i chi i’w Plant hawlio! Gwyliwch y fideo hwn am fwy o wybodaeth.
- Byddwch yn ofalus o sgamiau – gall sgamiau ddigwydd mewn llawer o ffyrdd, ond maent i gyd wedi’u cynllunio i gael gafael ar eich arian. Mae’n bwysig gwybod sut i adnabod sgam a beth i’w wneud os credwch eich bod wedi’ch targedu neu eich bod wedi dod yn ddioddefwr.
- Gochelwch rhag benthycwyr arian didrwydded – mae benthycwyr arian didrwydded yn ymddangos yn gyfeillgar a pharod eu cymorth pan ydych yn anghenus, ond mae’r math hwn o roi benthyg yn anghyfreithiol, a gallai gostio llawer mwy ichi nag a feddyliwch. Cofiwch nad ydych mewn trafferth os ydych wedi cael benthyg arian gan siarc benthyg arian. Cysylltwch ag Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru am gyngor neu i roi gwybod am siarc benthyg arian.
- Deall eich sgôr credyd – rhif yw credyd sgôr sy’n codi neu’n gostwng, yn dibynnu ar beth a wnaethoch yn y gorffennol a’r presennol gydag arian, yn enwedig pan ddaw hi’n fater o fenthyciadau a chardiau credyd. Mae adeiladu sgôr credyd da yn bwysig oherwydd y gall effeithio ar eich gallu i gael benthyg arian neu i gael at gynnyrch megis cardiau credyd neu fenthyciadau. Gallwch wirio’ch sgôr am ddim, ac os nad yw ar ei orau, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i’w wella.
- Os oes arnoch eisiau siarad â rhywun am eich cyllidau, siarad â’ch gofalwyr maeth, cynghorydd personol neu ewch i wefan MoneyHelper.