Beth yw diben hyn i gyd?

Rhianta corfforaethol yw pan fo cynghorau lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill yn rhannu cyfrifoldeb am sicrhau bod hawliau plant a phlant ifanc mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal yn cael eu diogelu, a’u bod yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio rhiant corfforaethol da fel rhywun sy’n gallu sicrhau bod plant a phobl ifanc â phrofiad gofal yn cael y cyfleoedd i fod yn ddiogel, yn ddedwydd, yn gwneud yn dda yn yr ysgol, yn mwynhau perthnasoedd da gyda chymheiriaid, yn cyfrannu tuag at y gymuned, yn gallu cymryd rhan mewn hobïau/gwaith ieuenctid, eu bod yn cael eu cyfarparu i fyw bywyd annibynnol fel oedolyn, eu bod yn gallu dewis eu haddysg, eu swyddi a’u gyrfaoedd fel oedolion ac yn cael sefydlogrwydd.

Y Siarter Rhianta Corfforaethol

Mae gan Gymru siarter rhianta corfforaethol, sy’n set o egwyddorion ac addewidion sy’n gyffredin y gall sefydliadau gofrestru ar eu cyfer.  Golyga hyn eu bod yn cytuno i fod yn rhiant corfforaethol da ac yn ymrwymo i gyflawni’r egwyddorion a’r addewidion cyfunol a amlinellir ynddo.

Sut mae’n effeithio arnaf i?

Mae rhianta corfforaethol ar gyfer awdurdodau lleol yn golygu cynnwys plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau ynglŷn â’u gofal, gan eu cynnwys wrth gynllunio gwasanaethau, ac annog gwasanaethau a sefydliadau i gyflogi pobl sydd â phrofiad bywyd.  Dylai rhieni corfforaethol hefyd wrando ar farnau, dymuniadau a theimladau plant a phobl ifanc mewn gofal a phobl sy’n gadael gofal, fel bod eu llais wrth graidd llunio penderfyniadau.