‘Dylai person doeth/call gael arian yn eu pen, nid yn eu calon.’

-yr awdur Jonathan Swift

‘Dylai person doeth/call gael arian yn eu pen, nid yn eu calon.’

-yr awdur Jonathan Swift

‘Dylai person doeth/call gael arian yn eu pen, nid yn eu calon.’

-yr awdur Jonathan Swift

‘Dylai person doeth/call gael arian yn eu pen, nid yn eu calon.’

-yr awdur Jonathan Swift

Golygai Jonathan Swift y dylem dreulio amser yn meddwl am arian, ond na ddylai ddod yn rhy bwysig inni.

Hawdd iddo fo ddweud hynny! Mae arian MOR hanfodol yn bron bob rhan o’n bywydau y gall hi fod yn wirioneddol ddyrys iddo beidio â bod yr unig beth sy’n bwysig inni. Lle rydych yn mynd i’r ysgol, pa ddillad rydych yn eu gwisgo, pa ffôn rydych yn ei ddewis, sut y gallwch deithio, lle rydych yn byw – ym mhob un o’r rhain, a chynifer o bethau eraill, mae gan arian rôl anhepgor. Gall pryderu am arian effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch perthnasoedd, ac felly mae dysgu sut i ofalu amdano yn sgil bywyd hanfodol.

Mae bod yn ariannol alluog – deall arian, sut i gyllidebu, lle i’w gael, sut i’w gynilo a pha gymorth sydd ar gael ichi – yn bwysig iawn. Efallai yn wir bod eich ysgol yn eich cynorthwyo gyda hyn, a disgwylir i’ch gofalwyr maeth eich helpu i drin eich arian. Dylid hefyd siarad am allu ariannol wrth gynllunio’ch llwybr.

Mynd ati i ddechrau

Mae’n werth nodi bod yna bob amser ffyrdd o ddatblygu’ch gallu ariannol ac o newid eich sefyllfa ariannol yn gadarnhaol. Dyma rai adnoddau gwych i’ch helpu i wella’ch gallu ariannol:

Arian am ddim?!

Mae gan bobl ifanc sy’n derbyn gofal yn barhaus am fwy na blwyddyn gyfrif cynilo cyfnod hir wedi’i hagor ar eu rhan gan y llywodraeth (sy’n rhoi £200 ym mhob cyfrif pan gaiff ei agor).

Mae’r Share Foundation yn gofalu am y cyfrifon hyn tan y bydd y person ifanc yn cyrraedd 18 oed, pan fydd mynediad a rheolaeth o’r cyfrif yn trosglwyddo i’r person ifanc. Gall y cynllun cynilo fod yn ISA Iau neu’n Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, ond y naill ffordd neu’r llall, bydd yna gynilion ar gael ichi.

Gall faint o arian a gynilir ac o le y daw’r arian hwnnw amrywio, er bod llawer o wasanaethau maethu yng Nghymru’n gweithio tuag at swm o gynilion y cytunwyd arno am bob plentyn. Mae rhai gwasanaethau maethu yn mynd â’r cynilion yn uniongyrchol o’r lwfans y mae gofalwyr maeth yn ei dderbyn, ac mae eraill yn cyfrannu arian ychwanegol i helpu i adeiladu’r cyfrif cynilo ar gyfer pryd y bydd ar y person ifanc angen cael ato. Anogir gofalwyr maeth a phobl ifanc i gyfrannu tuag at y cyfrifon hyn, hefyd.