Beth yw'r stori?

Dechreuodd cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o gysylltu pobl â’u cyfeillion a’u teulu gyda dim ond un clic. Felly, hyd yn oed os byddai’ch cyfaill gorau yn symud at deulu maeth filltiroedd lawer i ffwrdd, fe allech ddal i deimlo’n agos atynt drwy rannu lluniau, fideos a negeseuon. Bellach, mae wedi dod yn ffordd o gymharu popeth – ffyrdd o fyw, ffasiwn, hobïau – ac fe all hi fod yn anodd os credwch nad ydych cweit yn ddigon da.

FOMO

Mae Ofn Cael Eich Hepgor – sef FOMO – yn broblem wirioneddol pan ddaw hi’n fater o gyfryngau cymdeithasol. Fe allai ond rholio drwy Instagram wneud ichi deimlo’n isel neu’n drist oherwydd bod eich cyfeillion yn mwynhau diwrnod allan llawn hwyl neu’n mynd i weld eich hoff grŵp pop.

Yn ddiweddar, fe ddywedodd astudiaeth o bobl ifanc fod y rheiny sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn aml dair gwaith yn fwy tebygol o deimlo’n isel a thruenus na’r rheiny sy’n eu defnyddio’n llai aml. Cofiwch, fe all gweld gormod o fywydau ‘perffaith’ pobl eraill fod yn ddrwg ichi.

Teenage boy and teenage girl stand by their lockers at school talking and looking at their phones together

POBL HAPUS SY’N GWENU

Mae pawb yn tueddu i edrych mor hapus, onid ydyn nhw? Fe all hi ymddangos eu bod yn byw eu bywydau gorau ac mae ond yn cymryd eiliad i wenu, i sefyll mewn ystum a dewis hidlydd, ond nid yw’n golygu bod y person hwnnw’n cael amser gwych, drwy’r adeg.

CHWENNYCH ‘LIKES’

Wrth gwrs, mae’n OK bod eisiau rhannu beth ydych yn ei wneud, a defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o gadw teulu a chyfeillion mewn cysylltiad â’ch bywyd. Ond peidiwch â rhoi’ch hun dan straen ynglŷn â nifer y ‘likes’ sydd gennych neu a yw’r bachgen neu’r eneth ddel ‘na wedi bwrw sylw ar eich llun diweddaraf.

SEIBERFWLIO

Fe all rhoi gormod o wybodaeth ar-lein ddenu sylwadau negyddol, yn ogystal â ‘likes’ a chanmoliaethau. Fe all weithiau arwain at seiberfwlio, hefyd. Ceisiwch gofio mai’r peth pwysicaf yw hoffi a pharchu’ch hun yn gyntaf!

 

GWIR NEU ANWIR?

Mae’r rhan fwyaf o bobl – yn cynnwys eich hoff sêr enwog – yn hoffi dangos yr uchafbwyntiau o’u bywydau, yn hytrach na’r pethau sychlyd, beunyddiol. Mewn gwirionedd, rydym fel arfer yn postio pan ydym mewn hwyliau da ac yn teimlo’n dda, ac rydym yn rholio drwy negeseuon pobl eraill pan ydym wedi diflasu neu’n teimlo braidd yn isel. Fe all gweld cymaint o ‘berffeithrwydd’ pan ydych eisoes yn teimlo’n isel wneud ichi deimlo’n waeth.

SUT Y GALLAF GAEL CYMORTH?

Os yw cyfryngau cymdeithasol yn gwneud ichi deimlo’n isel – rhowch seibiant i chi’ch hun! Peidiwch â chodi’ch ffôn i edrych arno ETO, ewch i chwarae gyda’r plentyn bach ‘na yn eich teulu maeth, mwythwch y ci, ciciwch bêl-droed o amgylch neu dywedwch wrth eich gofalwr maeth beth ddigwyddodd yn yr ysgol (fe wyddoch cymaint y maen’ nhw’n eich holi chi amdano!).

Os ydych yn teimlo’n wirioneddol isel, gofynnwch am gymorth – mae’ch gofalwyr maeth a’ch gweithiwr cymdeithasol yno i’ch cynorthwyo!