Mae’r Share Foundation yn gweithredu’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant a chynlluniau ISA Iau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal yng Nghymru a Lloegr ar ran yr Adran Addysg.  Eu rôl yw agor y cyfrif ISA Iau a sicrhau y caiff ei weithredu’n briodol.  Mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Share Foundation am yr holl blant sy’n gymwys ar gyfer cael cyfrif wedi’i agor.

Maent yn cynnig llawer o gymorth; yn cynnwys canllaw ynglŷn â sut i drin arian, sut i drin yr ISA Iau a sut i barhau i dyfu’r cyfrif ISA Iau tan y bydd y person ifanc yn cyrraedd 18 oed.  Gallant hefyd helpu unrhyw berson ifanc 16 oed neu hŷn i ganfod eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Gellir ond agor un cyfrif i bob plentyn:

Bydd gan bob plentyn a anwyd rhwng y 1af o Fedi, 2002 a’r 2ail o Ionawr, 2011
  • Gronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi’i sefydlu ar eu rhan.
  • Os ydych dros 16 oed, wedi’ch geni yn y cyfnod hwn ac ni wyddoch fanylion eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, mae yna ffurflen ar gyfer pobl ifanc i’w chwblhau ar wefan Y Share Foundation.
Bydd gan bob plentyn fu mewn gofal yn barhaus am o leiaf 1 flwyddyn, ac nad oes ganddynt eisoes Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • ISA Iau a sefydlwyd gan Y Share Foundation.
  • Mae’r Share Foundation yn anfon gwybodaeth, yn cynnwys balans y cyfrif, i’r awdurdod lleol.

Rheolir y ddau gyfrif gan Y Share Foundation tan y bydd y plentyn yn cyrraedd 16 oed pan all pobl ifanc wedyn reoli’r cyfrif eu hunain, a byddant yn gallu codi’r arian pan fônt yn cyrraedd 18 oed.   Mae yna wybodaeth ar wefan Y Share Foundation am sut i gael at gyfrifon fel person sy’n oedolyn sy’n gadael gofal, os na chafwyd atynt eisoes.

Gellir canfod taflenni gwybodaeth defnyddiol ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed ar wefan Y Share Foundation yma.