Gwnewch y Cwis!
O TikTok i Instagram a Twitter, efallai bod gennych chi gyfrif gyda nhw i gyd. Ond a ydych yn credu y gallech fyw heb wirio’r sylwadau ar eich llun, rhannu ‘memes’ a ‘likes’ am awr, am ddiwrnod, am fis, am byth? Cymrwch y cwis hwn i ganfod a ydych yn treulio gormo amser ar-lein ac a oes arnoch angen llamu yn ôl i’r byd go iawn.
1. Faint o amser rydych yn ei dreulio ar eich ff ôn bob dydd?
a) Llai na 2 awr
b) 2-4 awr
c) Dwi byth yn rhoi fy ffôn o’r neilltu!
2. Ar gyfer faint o wahanol safl eoedd cyfryngau cymdeithasol (fel Instagram, TikTok neu Snapchat) mae gennych chi gyfrifon?
a) Dim ond un
b) Rhwng dau a phedwar
c) Mwy na phedwar
3. Ar faint o bobl enwog rydych yn edrych bob diwrnod ar-lein?
a) Llond dwrn
b) Rhyw ddeg fwy neu lai
c) Gormod i’w cyfri’!
4. A ydych yn cymharu’ch bywyd ag eraill yn seiliedig ar eu pyst ar gyfryngau cymdeithasol?
a) Nac ydw – Dwi’n gwybod mai ffugio maen’ nhw!
b) Weithiau, rwy’n teimlo bod rhai o fy nghyfeillion yn cael gwell amser na mi oherwydd eu bod bob amser yn gwneud pethau hyfryd.
c) Ar ôl ychydig funudau o rolio, rwyf bob amser yn teimlo mor isel – nid yw fy mhyst byth yn edrych cystal nac yn cael cynifer o ‘likes’.
5. Beth ydych yn ei wneud os nad ydych yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol?
a) Rwy’n gwneud llawer o bethau eraill fel chwaraeon a mynd i glybiau.
b) Rwyf wrth fy modd yn sgwrsio â fy nghyfeillion a fy nheulu, ond mae fy ffôn bob amser yn pingio wrth fy ymyl.
c) ‘Does DIM BYD i’w wneud os nad yw’n edrych ar gyfryngau cymdeithasol!
Sut wnaethoch chi sgorio?
A, yn bennaf:
Rydych yn gwybod am gyfryngau cymdeithasol, ond rydych wrth eich bodd yn gwneud pethau eraill hefyd – daliwch ati!
B, yn bennaf:
Rydych yn deall technoleg, ond mae gennych gydbwysedd bywyd iach rhwng bod ar-lein ac all-lein – ond byddwch yn ofalus na chewch eich sugno i mewn i ormod o gyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.
C, yn bennaf:
Oes, mae gennych obsesiwn gyda chyfryngau cymdeithasol! Ceisiwch roi’ch ffôn o’r neilltu a chamu i’r byd mawr y tu allan ychydig yn fwy – efallai y gwnewch ei hoffi!