Nid yw bod mewn gofal yn fy niffinio i
Mae Isabella ym Mlwyddyn 11 yn yr ysgol ac fe fynychodd dair ysgol gynradd – ac felly, yn sicr, mae ganddi rywbeth i’w rannu am ymdrin â straen arholiadau a phontio.
Helô… Isabella ydw i, ac rwyf yn byw’n eitha’ uchel i fyny mynydd yng Ngogledd Cymru gyda fy ngofalwyr maeth. Symudais yma yn 2019, ymaith o’r traethau lle’r arferwn fyw, ac felly teimlai braidd yn rhyfedd yn gyntaf! Rwyf ar hyn o bryd yn gwneud fy TGAU. Rwyf wedi dewis technoleg bwyd, iechyd a gofal cymdeithasol, a busnes.
Pan fyddaf wedi gorffen eleni, nid oes arnaf eisiau mynd i goleg. Yn hytrach, mae arnaf eisiau gwneud lleoliad seiliedig ar waith fydd, rwyf yn gobeithio, yn rhoi NVQ imi fel cynorthwyydd addysgu. Mae arnaf eisiau’n wirioneddol bod yn gynorthwyydd addysgu, yn ddelfrydol yn un o fy hen ysgolion cynradd. Byddwn hefyd wrth fy modd o fod yn ofalwr maeth, a chredaf y gall hynny weithio’n dda ochr yn ochr â bod yn gynorthwyydd addysgu.
Caf drafferthion mewn rhai pynciau yn yr ysgol, yn enwedig Mathemateg a Ffiseg. Rwyf yn gwneud llwyth o waith adolygu, ond wedyn pan eisteddaf yn yr arholiad, ni allaf gofio dim neu rwyf yn ei chael hi’n anodd peidio â dechrau meddwl am y cwestiwn nesaf.
Mae fy ysgol yn rhoi llawer o gymorth inni gydag arholiadau, yn cynnwys strategaethau adolygu a gwersi sgiliau astudio. Maent hefyd yn ein hannog i wneud gweithgareddau ar ôl ysgol, ac felly rwyf yn addysgu gymnasteg ddwywaith yr wythnos i blant iau.
Mae arholiadau’n peri andros o straen imi. Mae’n teimlo fel petawn yn adolygu’n gyson. Rwyf yn canfod fy mod yn mynd yn flin ac yn ddicllon yn rhwydd pan fyddaf dan straen, a gall y sŵn lleiaf fy nghythruddo. Rwyf ar y cyngor ysgol, ac rydym wedi trafod sut i leihau straen arholiadau. Un peth y gwnaethom ei awgrymu oedd ceisio gwneud adolygu’n fwy o hwyl a chynnwys y teulu cyfan fel math o gêm.
Fe neges i fyfyrwyr eraill am arholiadau fyddai, “Ceisiwch beidio â chynhyrfu. Peidiwch â gwthio’ch hun i lawr. Adolygwch yn galed a gweithiwch yn iawn fel y gallwch ddweud eich bod wedi gwneud eich gorau glas.”
Rwyf wedi cael llwyth o brofiad o symud ysgol. Fe es i dair ysgol gynradd. Unwaith, roedd yn rhaid imi symud yng nghanol blwyddyn ysgol, ac roedd hynny’n lletchwith. Gadawais fy nghyfeillion ar ôl – a deimlai fel gadael darn ohonof fy hun ar ôl – ac, yn yr ysgol newydd, mae’n teimlo fel petai pawb yn ymhél o’ch cwmpas. Nid oeddwn yn hoffi ennill cyfeillion yn syth, ond unwaith y sylweddolais fy mod yn aros mewn ysgol, yna dechreuais ennill cyfeillion.
Pan symudais i fy ysgol uwchradd, nid oeddwn yn adnabod neb arall oherwydd ei bod ar yr un adeg ag y symudais i fy nghartref maeth cyfredol. Yn y dyddiau y cefais fy sefydlu, roeddwn mewn gwisg ysgol wahanol i bawb arall, ac roeddynt i gyd am wybod o le roeddwn wedi dod. Roedd fel petawn wedi camu i fyd newydd.
Cadwais yn ddistaw fy mod mewn gofal pan ddechreuais yn yr ysgol uwchradd oherwydd cefais fy mwlio amdano yn yr ysgol gynradd. Rwyf ond newydd ddechrau dweud wrth fy nghyfeillion agosaf a’m grŵp cymdeithasol, ac ni chawsant lawer o fraw o’i glywed o. Gwn yn awr nad yw bod mewn gofal yn fy niffinio i, ac nad oes arnaf angen cuddio fy ngwir hunan.
Pe gallwn wella un peth mewn gofal maeth, y peth hwnnw fyddai y dylid rhoi llawer mwy o wybodaeth, a dewis, i blant, am y bobl y maent yn symud atynt. Roeddwn yn ffodus fy mod wedi cael cyfarfod â’m gofalwyr cyfredol ddwywaith cyn symud atynt, ond nid yw hyd yn oed hynny’n llawer iawn. Mae’n anodd pan ydych yn symud, ac felly gallai gwybod mwy am eich gofalwyr wirioneddol helpu. Nid yn unig y byddwch yn mynd i fyw at y bobl hyn, byddwch hefyd yn dod yn rhan o’u teulu.
Adnoddau Perthynol
Teimlo’n bryderus am yr ysgol? Dyma rai adnoddau ychwanegol a all eich helpu i deimlo’n fwy parod