Defnyddio’ch llais i ddod â newid
Daw Rayya o Gaerdydd ac mae ar hyn o bryd yn gwireddu’i breuddwyd fel plentyn o astudio dylunio cartrefi mewn prifysgol.
Rwyf yn 20 oed ac rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m bywyd mewn gofal. Rwyf yn caru ceffylau a dolffiniaid, yn ogystal â gwrando ar gerddoriaeth, gwylio cyfresi teledu a darllen Jane Austen.
Mae astudio dylunio cartrefi wedi bod yn un o’m nodau ers imi fod ym Mlwyddyn 6. Dewisais astudio yn Lloegr i fynd allan o Gaerdydd – Roedd arnaf ond angen yr annibyniaeth. Yn ogystal ag astudio, rwyf hefyd yn gwirfoddoli gyda gwahanol elusennau a sefydliadau, fel NYAS a’r Rhwydwaith Maethu. Ni wyddwn y gallech wirfoddoli tan gwpwl o flynyddoedd yn ôl, ac yn awr rwyf yn gwirioneddol deimlo fel petawn wedi canfod fy angerdd. Rwyf eisoes wedi penderfynu fy mod am wneud cwrs ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid gan ganolbwyntio ar wirfoddoli.
Yn y dyfodol, byddwn wrth fy modd o fod yn weithiwr ieuenctid rhyngwladol, yn gweithio â phobl ifanc o amgylch y byd, yn eu helpu i gael llais ac i siarad yn agored. Mae’n wirioneddol bwysig y gwrandewir ar bobl ifanc, i’w lleisiau gael eu clywed ac i weithredoedd fod ar waith i wneud y newidiadau y mae arnynt eisiau iddynt ddigwydd.
Teimlaf yn gryf ynglŷn â hyn oherwydd, fel person ifanc, teimlaf fel pe na wrandawyd go iawn erioed ar fy llais. Dyna hefyd pam yr hoffaf wirfoddoli â gwahanol sefydliadau ac elusennau, gan fy mod yn gallu lleisio fy marnau ac y gweithredir arnynt mewn gwirionedd.
Byddwn hefyd yn hoffi agor fy elusen fy hun sy’n helpu pobl mewn gofal gyda’u hiechyd meddwl, gan fod hynny’n rhywbeth a brofais ac nid oes arnaf eisiau i bobl ifanc eraill ei wynebu.
Ni chredaf y bu gennyf, neu fod gennyf, gynllun llwybr – a chredaf y byddai wedi bod yn fuddiol i fy nghael i’n barod ar gyfer annibyniaeth. Roedd gen i PEP (Cynllun Addysg Personol), ond ni wrandawyd arnaf erioed ynglŷn â’r hyn roedd arnaf eisiau ynddo. Ni wnaeth neb gyfathrebu â mi – hyd yn oed am pam y cefais fy maethu. Gwn y gallaf gyrchu fy ffeiliau gwaith cymdeithasol, ond rwyf yn rhy ofnus i’w darllen oherwydd ni wn sut y byddwn yn delio â’r hyn rwyf yn ei ddarllen.
Ar gyfer cyllidebu a choginio, mae gen i TikTok! Mae yna Budget Binder ar TikTok. Roedd gan NYAS sesiwn “cyllidebu ar gyfer coginio” oedd yn ystyried bwyta iach ar gyllideb. Dangosodd y ddynes inni beth roedd hi wedi’i brynu a sut y byddai’n defnyddio eitemau brand rhatach gan yr archfarchnad, a sut i wneud bwyd y gallem ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un saig. Gwnaeth fy ngofalwyr maeth hefyd addysgu rhai sgiliau coginio sylfaenol imi.
Dywedwn fod bod mewn gofal maeth yn anodd, ac nid yw o angenrheidrwydd yn mynd yn haws wrth ichi fynd yn hŷn. Ond mae yna gymorth ar gael, ac mae’ch llais yn offer nerthol ac y dylech ei ddefnyddio. Yr unig ffordd y bydd gofal maeth yn gwella yw os byddwch chi’n defnyddio’ch llais.