Sefydlwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu un man sy’n cwmpasu popeth, o arian poced i bensiynau.

Mae Lee Phillips yn gweithio i MaPS yng Nghymru, ac felly mae hi’n berson ardderchog i roi awgrymiadau a chynghorion gwych inni am arian…

  • ‘Mae rhai pobl yn credu eu bod yn anobeithiol gydag arian, ond dim ond oherwydd nad ydych wedi bod yn dda gydag arian yn y gorffennol, nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid i bethau fod felly yn y dyfodol. Wrth ichi dyfu ac mae’ch bywyd yn newid, gallai’ch agwedd tuag at arian hefyd newid.
  • ‘Mae arnoch angen meddwl am y gwahaniaeth rhwng y pethau y mae arnoch eu heisiau a’u hangen. Bydd hyn yn eich helpu i gyllidebu, sy’n bwysig iawn. Mae pob un ohonom yn gwneud camgymeriadau gydag arian, ond po gyntaf y gallwn wneud y camgymeriadau hyn a dysgu oddi wrthynt, y lleiaf o siawns sydd yna o wneud camgymeriad a allai gael effaith gyfnod hir arnom.
  • ‘Mae pawb yn pryderu am godiadau mewn costau byw. Byddwn i’n awgrymu siarad am arian – po fwyaf y siaradwn amdano a chwalu’r tabŵ, y mwyaf y gallwn rannu’n pryderon a chael y cymorth y mae arnom ei angen.
  • ‘Os ydych yn ei chael hi’n anodd parhau i dalu biliau a thaliadau, peidiwch â phryderu – nid ydych ar eich pen eich hun. Rydym yn helpu cannoedd o filoedd o bobl gyda phryderon tebyg bob blwyddyn. Gallwch gysylltu ag arbenigwr a chanfod cyngor cyfrinachol, am ddim gan ddefnyddio’n hoffer lleoli cyngor ynghylch
    dyled MoneyHelper am ddim.
Ewch i MoneyHelper
Lee Phillips from MaPS Smiling

Cynghorion gwych Lee

  1. Os gallwch gyda’ch arian yn awr, yna byddwch yn ei chanfod hi’n haws taro’r nodau arian mawr hynny yn ddiweddarach mewn bywyd.
  2. Dechreuwch ar y llwybr iawn – dowch i ddeall pa arian sydd gennych yn dod i mewn, beth sy’n cael ei wario ac i beth y mae gennych hawl, ac wedyn lluniwch gyllideb. Gall gwneud cyllideb wythnosol eich helpu i gael darlun mwy eglur o’r costau y mae arnoch angen eu talu.
  3. Darllenwch ein canllaw ynglŷn â chynnal eich hun yn ariannol.
  4. Os gallwch, ceisiwch ddatblygu’r arfer o gynilo. Mae rhoi arian o’r neilltu’n rheolaidd ar gyfer eich bywyd yn y dyfodol yn arfer da i’w ddatblygu, ac mae’n rhoi crochan o arian ichi’i ddefnyddio mewn argyfwng, ond yn bwysicach na dim, mae’n eich cael i ddod i arfer â chynilo.
  5. Gwiriwch a oes gennych Gronfa Ymddiriedolaeth – gallai fod yna dros £1,000 yn aros i chi i’w Plant hawlio! Gwyliwch y fideo hwn am fwy o wybodaeth.
  6. Byddwch yn ofalus o sgamiau – gall sgamiau ddigwydd mewn llawer o ffyrdd, ond maent i gyd wedi’u cynllunio i gael gafael ar eich arian. Mae’n bwysig gwybod sut i adnabod sgam a beth i’w wneud os credwch eich bod wedi’ch targedu neu eich bod wedi dod yn ddioddefwr.
  7. Gochelwch rhag benthycwyr arian didrwydded – mae benthycwyr arian didrwydded yn ymddangos yn gyfeillgar a pharod eu cymorth pan ydych yn anghenus, ond mae’r math hwn o roi benthyg yn anghyfreithiol, a gallai gostio llawer mwy ichi nag a feddyliwch. Cofiwch nad ydych mewn trafferth os ydych wedi cael benthyg arian gan siarc benthyg arian. Cysylltwch ag Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru am gyngor neu i roi gwybod am siarc benthyg arian.
  8. Deall eich sgôr credyd – rhif yw credyd sgôr sy’n codi neu’n gostwng, yn dibynnu ar beth a wnaethoch yn y gorffennol a’r presennol gydag arian, yn enwedig pan ddaw hi’n fater o fenthyciadau a chardiau credyd. Mae adeiladu sgôr credyd da yn bwysig oherwydd y gall effeithio ar eich gallu i gael benthyg arian neu i gael at gynnyrch megis cardiau credyd neu fenthyciadau. Gallwch wirio’ch sgôr am ddim, ac os nad yw ar ei orau, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i’w wella.
  9. Os oes arnoch eisiau siarad â rhywun am eich cyllidau, siarad â’ch gofalwyr maeth, cynghorydd personol neu ewch i wefan MoneyHelper.