Sam Monk, Young Persons Advisor, Swansea Council

“Credwch ynoch eich hun ... ond gofynnwch am gymorth”

Mae Sam Monk yn gynghorwr person ifanc (YPA), sy’n gweithio yn ardal Abertawe. Cyn mynd yn YPA, gweithiai gyda phlant a phobl ifanc mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd mewn ysgolion, gofal preswyl a chyda troseddwyr ifainc.

Amdanaf fi

Mae bod yn YPA yn gymaint o fraint. Caf weld pobl ifanc yn tyfu ac yn rhoi sgiliau a gwybodaeth ar waith. Fy ngwaith i yw ceisio cael pobl ifanc o bob cefndir a phrofiadau i fod mor annibynnol â phosibl fel y gallant fyw’r bywyd gorau fel oedolyn y gallant. Mae arnaf eisiau i bobl ifanc fy ngweld i fel lle diogel, rhywle y gallant fynd ato pan fo arnynt angen cymorth a chynghorion.

Adeg heriol o fywyd

Mynd o 16 i 18 ac wedyn o 18 i 21 yw rhai o’r adegau mwyaf heriol mewn bywyd oherwydd bod yna gynifer o newidiadau a chynifer o ddisgwyliadau, ac mae’r gwahaniaeth rhwng bod yng ngofal gwasanaethau cymdeithasol ac wedyn yn cael eu categoreiddio fel oedolyn yn hynod wahanol.

Gall hynny fod yn un o’r rhannau mwyaf heriol o fy rôl, sef gorfod egluro i berson ifanc na allaf wneud pethau drostynt pan fônt yn cyrraedd 18 oed, ond gallaf wneud pethau gyda nhw a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau y mae arnynt eu hangen.

Magu ymddiriedaeth

Pan eisteddaf i lawr y tro cyntaf gyda pherson ifanc, mae’r cyfan yn ymwneud â magu perthnasoedd a chael dealltwriaeth o’r person ifanc. Mae’n golygu dangos iddynt nad ydym yn mynd i unlle, a’u hannog i ofyn llawer o gwestiynau imi. Mae’n ymwneud â magu ymddiriedaeth ac egluro’r gwahaniaeth rhwng fy rôl i a gweithiwr cymdeithasol. Mae arnaf ond eisiau iddynt wybod fy mod yno iddynt pan fo arnynt fy angen ac y gallant ddod ataf gydag unrhyw fater. Nid oes dim yn fy siomi, rwyf wedi’i weld i gyd ac wedi’i wneud i gyd.

Rydym i fod i wneud cynlluniau llwybr i bennu nodau’r dyfodol bob chwe mis, ond nid yw rhai o fy mhobl ifanc yn dymuno’u gwneud oherwydd eu bod wedi hen ‘laru ar gyfarfodydd. Mae pobl ifanc eraill wrth eu bodd yn eu gwneud ac yn adfyfyrio. I mi, mae’r cynllun llwybr ar gyfer y person ifanc, ac felly os nad oes arnynt eisiau cynllun llwybr, mae’n rhaid imi barchu hynny a chanfod ffordd o ddiwallu amcanion y cynllun llwybr heb lawer o gyfarfodydd.

Pennu disgwyliadau

Credaf mai’r peth pwysicaf i helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer annibyniaeth yw pennu disgwyliadau. Mae arnom angen helpu pobl ifanc i ddeall realiti bywyd – ein bod mewn argyfwng tai, ac felly ni fyddwch o anghenraid yn cael fflat; nad yw credyd cynhwysol yn llawer o arian.

Wedyn mae’n bwysig sicrhau bod yr hanfodion ganddynt – coginio, heb fod yn dibynnu ar bobl eraill i wneud pethau iddynt, paratoi ar gyfer biliau a chyllidebu, gofalu amdanynt eu hunain. Mae gennym asiantaethau eraill a all helpu gyda’r pethau hyn, yn enwedig sgiliau byw’n annibynnol.

Fy rhwystredigaeth fwyaf yw pan fo pobl ifanc yn byw allan o’r sir, ac na allwn gael y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen iddynt oherwydd nad ydynt yn byw yn Abertawe. Mae’r rhain yn bobl ifanc nad ydynt efallai wedi byw yn Abertawe ers blynyddoedd, nad ydynt yn dymuno byw yn Abertawe ond na allant gael at y gwasanaethau yn yr awdurdod lleol lle maent yn byw. Os yw person 17 mlwydd oed yn dymuno aros lle maent yn byw, pam na ellir trosglwyddo’u gwasanaeth i wasanaeth lleol y person sy’n gadael gofal?

Neges derfynol

Y neges y byddwn yn ei hafnon ataf fy hun yn 16 oed, ac i eraill sy’n 16 oed heddiw, yw credu ynddoch eich hunain, gallwch lwyddo … ond peidiwch ag ofni gofyn am gymorth. Os oes gennych ofidiau neu bryderon, cofiwch gysylltu.

Beth yw YPA?

Gweithiwr cymorth profiadol nad yw’n weithiwr cymdeithasol yw YPA. Byddant fel arfer yn dechrau gweithio gyda chi yn agos at eich pen-blwydd yn 16 oed. Unwaith rydych yn cyrraedd 18 oed, byddwch yn gadael gofal yn swyddogol a byddwch yn peidio â chael gweithiwr cymdeithasol. Yna, mae’ch YPA ar gael i’ch helpu i baratoi i fyw’n annibynnol. Gall gynnig cynghorion, arweiniad a chefnogaeth ichi ar ôl ichi adael gofal (tan rydych yn 21 oed, neu’n 25 oed os ydych yn parhau mewn addysg neu’n dal i fod angen cymorth).

Bydd eich YPA yn siarad â chi am unrhyw gymorth y mae arnoch ei angen. Ysgrifennir y cymorth hwn, a sut y cewch y cymorth, yn eich cynllun llwybr.

Adnoddau Perthynol