Beth yw diben hyn i gyd?

Ym mis Mawrth 2025, pasiwyd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 i ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.

Beth mae’n ei olygu mewn realiti?

Golyga hyn y bydd gofal yn y dyfodol i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ond yn cael ei ddarparu gan gynghorau lleol, sefydliadau elusennol neu nid-er-elw fel bod arian sy’n mynd i’r gyfundrefn yn dychwelyd i blant a’u llesiant, ac nid yn gwneud elw.

Gan y bydd hyn yn ddiwygiad mawr ar y gyfundrefn gyfredol, bydd yna bontio graddol i gael gwared ag elw o ofal.  Ni fydd yna ddarparwyr neu wasanaethau maethu er-elw newydd yn gallu cofrestru o’r 1af o Ebrill, 2026 ac yn y pen draw y nod yw na fydd yna ddarparwyr ac asiantaethau maethu er-elw ar ôl y 1af o Ebrill, 2030.