Fel rydych yn nesáu at gyrraedd 18 oed a gadael gofal, un o’r penderfyniadau mwyaf y bydd yn rhaid ichi’i wneud yw lle y byddwch yn byw. Mae’n benderfyniad mawr ac mae yna lawer o ddewisiadau, ond na phryderwch – mae yna lawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ichi.

Mae yna lwyth o opsiynau, yn amrywio o aros gyda’ch gofalwyr maeth o dan drefniant Pan Fydda i’n Barod (rhywbeth sy’n bendant yn werth meddwl amdano, hyd yn oed os ydych yn ffansïo’r syniad o fyw ar eich pen eich hun) neu lety â chymorth, i gael eich lle eich hun neu ddychwelyd at eich teulu biolegol. Nid yw’r holl opsiynau ar gael ym mhob ardal, ac felly dylech ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch cynghorydd personol roi gwybodaeth ichi ac egluro’ch holl ddewisiadau ichi. Yn ddelfrydol, dylech ddechrau ar y sgwrs ymhell cyn ichi gyrraedd 18 oed, a chan hynny mae gennych ddigon o amser i feddwl a chynllunio.

Girl moving into accommodation with boxes

Penderfynu gadael llety

Mae dewis mynd ar eich pen eich hun, neu fyw gyda chyfeillion, yn gam mawr ond efallai mai dyma’r penderfyniad cywir i chi. Fodd bynnag, os ydych yn penderfynu gadael llety, yna mae yna rai pethau y mae ar wasanaethau plant angen eu gwneud:

  • Ystyried eich anghenion a’ch barnau am le y mae arnoch eisiau byw.
  • Edrych ar sut mae’r lleoliad yn diwallu’ch anghenion a materion diogelwch y llety newydd, yn ogystal â ph’un a allwch fforddio’r costau rhedeg.
  • Trefnu ichi ymweld â’r llety newydd.

Mae’n rhaid i wasanaethau plant fod yn rhesymol wrth benderfynu gyda chi ynglŷn â lle rydych am fyw – ond nid yw hyn yn golygu y byddant bob amser yn cytuno â chi neu’n gallu rhoi ichi beth rydych yn gofyn amdano yn union!

Pan Fydda i’n Barod

I lawer o bobl ifanc, mae dal i fyw gyda’u gofalwyr maeth ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed yn ddewis gwirioneddol wych. Os oes arnoch chi a’ch gofalwyr maeth ill dau eisiau hynny, yna mae’n rhaid i’ch awdurdod lleol wneud
iddo ddigwydd.

Gallwch aros gyda’ch gofalwyr maeth o dan drefniant Pan Fydda i’n Barod tan rydych yn 21, neu hyd at 25 oed os ydych yn cwblhau rhaglen y cytunir arni o addysg neu hyfforddiant. Golyga hyn na fydd yn rhaid ichi bryderu am symud tra ydych yn datrys pethau pwysig eraill, megis mynd i goleg neu ddechrau ar swydd.

Os ydych yn penderfynu dewis Pan Fydda i’n Barod, bydd eich gweithiwr cymdeithasol, eich gofalwr maeth a chithau yn cwblhau
trefniant Cyd-fyw sy’n gytundeb ynglŷn â’r nodau y mae arnoch eisiau’u cyflawni, yn ogystal â therfynau a rheolau cyd-fyw.