P’un a yw perthnasoedd gyda’ch teulu, eich cyfeillion, eich gofalwyr maeth neu gariad, dylent wneud ichi deimlo’n dda!
Rhoddodd ein panel o bobl ifanc yn Ffynnu syniadau inni am beth sy’n gwneud perthynas yn iach neu’n niweidiol.
Arwyddion da
- Rydych yn treulio amser o ansawdd gyda’ch gilydd ond rydych hefyd yn hapus bod ar wahân
- Maent yn gwrando arnoch pan ydych wedi’ch cynhyrfu
- Rydych yn teimlo fel eich bod yn gallu bod fel chi’ch hun
- Rydych yn deall eich gilydd
- Rydych yn parchu’ch gilydd
- Rydych yn cael hwyl gyda’ch gilydd
Arwyddion rhybuddio
- Maent yn prynu llawer o anrhegion ichi – yn enwedig ar ôl ichi ffraeo
- Maent weithiau yn gwneud ichi deimlo’n euog
- Maent yn dreisgar tuag atoch
- Maent yn genfigennus ohonoch
- Maent yn galw enwau arnoch
- Maent yn dweud celwyddau
COFIWCH!
Mae pawb yn haeddu’i barchu, teimlo’n ddiogel a derbyn gofal.