Beth rydych yn ei feddwl o arian?

Darllenwch y tri dyfyniad hyn a meddyliwch am ba un sy’n disgrifio beth rydych chi’n ei deimlo am arian.

“Pan oeddwn yn ifanc, credwn mai arian oedd y peth pwysicaf mewn bywyd; yn awr fy mod yn hen, gwn ei fod.”

-Oscar Wilde

“Mae gormod o bobl yn gwario arian nad ydynt wedi’i ennill, i brynu pethau nad oes arnynt eu heisiau, i wneud argraff ar bobl nad ydynt yn eu hoffi.”

-Will Smith

“Ni wnaeth arian erioed neb yn hapus, ac ni fydd yn gwneud ‘chwaith, nid oes dim yn ei natur i gynhyrchu hapusrwydd. Po fwyaf ohono sydd gan rywun, y mwyaf y mae rhywun eisiau.”

-Benjamin Franklin

Y cwestiwn miliwn o bunnau

Pan ddaw hi’n fater o arian, mae yna fel arfer ddwy ochr i’r hafaliad – faint o arian rwyf yn ei wario a faint rwyf yn ei gynilo. Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sydd gan bobl ifanc (a phobl hŷn!) yw’r cwestiwn miliwn o bunnau: ‘Sut y gallaf gynilo mwy o arian?’.

Mae yna bedair prif ffordd o helpu’ch arian i ledaenu ymhellach, gan olygu y gallech gynilo ychydig ar hyd y daith, hefyd:

  • Gwario llai!
    Gall hyn deimlo’n ddyrys yn ystod argyfwng ‘costau byw’, ond drwy wirio a chymharu prisiau’n ofalus, defnyddio talebau a diddymu unrhyw danysgrifiadau nas defnyddir, gallwch wneud i’ch arian fynd ymhellach.
  • Ei ennill o.
    Wrth gwrs, bydd arnoch eisiau/angen gwario rhywfaint o’ch enillion ar eitemau a phethau hanfodol rydych yn eu mwynhau, ond mae rhoi ychydig yn eich cyfrif cynilo bob tro y cewch eich talu neu rydych yn derbyn arian yn syniad da os gallwch.
  • Gwerthu pethau.
    Mae gwerthu eitemau diangen yn ffordd wych o gael gwared ag annibendod a gwneud arian ychwanegol. Mae yna gynifer o wefannau ac apiau y gallwch werthu drwyddynt, ond bydd gofyn ichi fod yn ofalus i sicrhau eich bod yn ennill arian ac nid yn ei golli. Gwiriwch yr erthygl hon.
  • Rhoddion.
    Yn hytrach nag anrhegion, efallai y gallech ofyn am arian ar gyfer eich pen-blwydd neu ryw achlysur arbennig arall.

Mae gwybod lle y caiff pob punt ei gwario yn gam cyntaf gwych i gynilo arian. Gwiriwch y canllaw cynllunio cyllideb MoneyHelper i’ch helpu i wneud hynny.

Ymweliad MoneyHelper

Myfyriwch: Sut rydych yn defnyddio’ch arian?

Petai’n rhaid ichi ddisgrifio sut y byddech yn dewis defnyddio’ch arian, pa un o’r rhain y byddai?

  1. Gwariwr

    Mae gwarwyr yn byw yn y Gwariwr presennol, yn gwneud penderfyniadau wedi’u seilio ar eu hapusrwydd heddiw ac nid ydynt yn meddwl llawer am y dyfodol.

  2. Amddiffynnydd

    Mae amddiffynwyr yn hoffi teimlo’n ddiogel. Maent yn gwneud penderfyniadau gyda’r dyfodol mewn golwg, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod yn ddarbodus heddiw.

  3. Rhoddwr

    Mae rhoddwyr yn hoffi helpu pobl a theimlo’n hael, hyd yn oed os yw hynny’n golygu nad ydynt bob amser yn diwallu’u hanghenion eu hunain.

  4. Buddsoddwr

    Mae buddsoddwyr yn gweithio’n galed i adeiladu ar gyfer eu dyfodol, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod dan straen oherwydd eu bod yn canolbwyntio cymaint ar dwf.