Canllaw i’r bobl a all eich helpu i ennill eich hawliau

Mae yna GYNIFER o bobl newydd yn gysylltiedig â’ch bywyd pan ydych yn byw mewn gofal. Gall hi fod yn anodd gwybod at bwy i droi pan fo arnoch angen cymorth mewn maes neilltuol neu os ydych yn ei chael hi’n anodd cael pobl i gymryd eich barn a’ch dymuniadau i ystyriaeth.

Wrth gwrs, dylai’ch gofalwyr maeth eich cynorthwyo i ddefnyddio’ch hawliau ac i’ch rhoi mewn cysylltiad â phobl eraill a all eich helpu, ond mae yna hefyd lawer o weithwyr proffesiynol eraill a’u gwaith yw sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau o fod mewn gofal ac yn cael pob cyfle i lwyddo ym mhob maes o’ch bywyd.

Pwy yw pwy?

Dyma ganllaw hwylus i rai o’r bobl allweddol y gallech ddymuno cysylltu â nhw…

Pan ydych yn derbyn gofal, mae’n rhaid i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau amdanoch ganfod beth yw’ch barnau a’ch dymuniadau ynglŷn ag unrhyw beth sy’n bwysig i chi, a dylent gymryd eich barn o ddifri’.

Weithiau, serch hynny, gall hi fod yn anodd mynegi sut rydych yn teimlo, neu efallai eich bod yn credu na wrandawir yn iawn ar eich barnau, a gall eiriolwr helpu gyda hynny.

Mae eiriolwyr yn weithwyr annibynnol sydd ar gael i’ch cynorthwyo. Ni fyddant yn gwneud penderfyniadau drosoch, ond byddant yn egluro pa ddewisiadau a hawliau sydd gennych, byddant yn sicrhau bod eich barnau’n cael eu mynegi a’u parchu, byddant yn mynychu cyfarfodydd gyda chi neu drosoch chi, a byddant yn herio unrhyw benderfyniadau nad ydych yn fodlon â nhw.

Os na ddywedwyd wrthych eisoes am eiriolwr, dylech ofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch cynghorydd personol.

Ewch i www.nyas.net neu www.tgpcymru.org.uk am fwy o wybodaeth.

Gwaith y Comisiynydd Plant yw dweud wrth bobl pam mae hawliau plant mor bwysig ac ystyried sut mae’r penderfyniadau a wnaed gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.

Gwarcheidwad Plant yw enw person wedi’i hyfforddi sy’n gweithio i CAFCASS Cymru (Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) ac sy’n helpu plant a theuluoedd yn ystod achos llys.

Efallai hefyd y clywch nhw’n cael eu galw’n Gynghorwyr Llys Teulu (neu FCA). Fe’u penodir i’ch achos gan y llys, a dylent fod mewn cysylltiad â’ch gofalwr maeth neu’ch gweithiwr cymdeithasol i drefnu i’ch gweld cyn unrhyw ddyddiadau llys pwysig.

Rhan o waith y gwarcheidwad yw cyfarfod â chi a gwrando ar yr hyn rydych yn ei feddwl a sut rydych yn teimlo a’ch helpu i ddeall beth sy’n digwydd. Byddant yn cynghori’r barnwr neu’r ynad ar beth yw’ch anghenion, eich dymuniadau a’ch teimladau, ac yn rhannu’u barn ynglŷn â beth maent yn ei gredu sydd orau ichi.

Ni wnânt ofyn ichi benderfynu beth sy’n digwydd nesaf na gofyn ichi wneud penderfyniad ynglŷn â’ch teulu.

Ewch i www.llyw.cymru/cafcass-cymru
am fwy o wybodaeth.

Mae’r person hwn yn aelod o staff yr ysgol a’i waith yw hyrwyddo dyheadau a deilliannau addysgol uchel ar gyfer plant a phobl ifanc a gafodd brofiad gofal. Dylai fod ganddynt ddealltwriaeth dda o’r hyn y mae’n ei olygu i fod mewn gofal a dylent gyfarfod â chi a’ch gofalwyr maeth yn rheolaidd i drafod eich cynllun addysg personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth iawn y mae arnoch ei angen bob un diwrnod yn yr ysgol.

Os na wyddoch pwy yw’r person dynodedig yn eich ysgol, gofynnwch i’ch gofalwyr maeth eich helpu i ganfod yr wybodaeth.

Prif waith y Swyddog Adolygu Annibynnol yw sicrhau bod eich cynllun gofal neu’ch cynllun llwybr yn diwallu’ch anghenion. Y fo/ y hi yw’r person sy’n cadeirio’ch adolygiad. Dylent bob amser adael ichi fynegi’ch barn eich hun fel rhan o’r adolygiad, ac, yn bwysig iawn, dylent gadw at unrhyw weithredoedd y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad.

Mae’r Swyddog Adolygu Annibynnol hefyd yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwybod pan nad yw’n gwneud yn ddigon da i blant yn ei ofal. Pan fo penderfyniadau neu weithredoedd wedi’u gwneud nad ydynt er eich lles gorau, gall y Swyddog Adolygu Annibynnol godi anghydfod gyda’r awdurdod lleol. Os nad yw hyn yn datrys y mater, gall y Swyddog Adolygu Annibynnol gwyno amdanynt wrth CAFCASS Cymru a all wedyn ofyn i lys ymchwilio.

Mae cynghorydd personol (PA) yn weithiwr cymorth sydd ar gael i weithio gyda chi i sicrhau y daw’ch cynllun llwybr yn realiti. Dylent gynnig cyngor a chymorth ichi i’ch helpu i ddatblygu’ch annibyniaeth, yn cynnwys cymorth i ganfod lle i fyw ac i reoli perthnasoedd. Dylent siarad gyda’r awdurdod lleol am y cymorth y mae arnoch ei angen, yn cynnwys unrhyw arian y dylech ei gael.

Dylid cyflwyno Cynghorydd Personol pan ydych yn 16 neu’n 17 oed (er y gall eich gweithiwr cymdeithasol gyflawni’r rôl hon tan rydych yn 18 oed, ac wedyn bydd y Cynghorydd Personol yn gafael yn yr awenau). Dylai’ch Cynghorydd Personol fod mewn cysylltiad â chi yn rheolaidd tan rydych yn o leiaf 21 oed, er y gall fod ar gael i’ch cynorthwyo tan rydych yn 25 oed os oes arnoch ei angen. Bydd yn sicrhau y caiff eich cynllun llwybr ei adolygu a’i ddiweddaru bob chwe mis (gyda’ch mewnbwn chithau, wrth gwrs!).

Mae ymwelydd annibynnol yn wirfoddolwr sy’n cyfeillio ac yn ymweld â phlentyn neu berson ifanc sy’n byw mewn gofal. Maent yn darparu arweiniad a chynghorion, ac yn gyffredinol yn helpu’ch datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac addysgol.

Bydd ymwelydd annibynnol fel arfer yn ymweld tuag unwaith y flwyddyn, gyda’r nod o fagu perthynas dda, barhaus â chi. Ei brif rôl yw bod yn gyfaill ichi, ac felly dylech gael hwyl gyda’ch gilydd – ond gall hefyd eich cynorthwyo i fynegi’ch barn ac i ofyn am bethau y mae gennych hawl iddynt.

Canfyddwch fwy o wybodaeth yn nyas.net.

Nyrs plant sy’n derbyn gofal (a elwir weithiau’n nyrs gofalu am blant sy’n derbyn gofal) sy’n gyfrifol am wella iechyd a lles plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Tra ydych mewn gofal, fe gewch o leiaf un adolygiad iechyd bob blwyddyn a wneir gan y nyrsys hyn.

Gall y nyrs weithredu fel eiriolwr iechyd gyda chi a sicrhau y clywir eich llais ym mhob penderfyniad ynglŷn â’ch iechyd.

Dylech yn bendant wybod pwy yw’ch gweithiwr cymdeithasol! Maent yn arwain wrth dynnu ynghyd yr holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio er eich lles gorau, ac maent yn gwneud penderfyniadau, gyda chi, am eich dyfodol. Dylent fod yn ymweld â chi’n rheolaidd, gan fagu perthynas â chi, a sicrhau bod gennych gynllun gofal eglur a bod eich anghenion a’ch buddiannau’n cael eu diwallu.