Gall bod mewn perthynas ramantus newydd deimlo’n gyffrous, yn orlethol, yn ddychryn ac yn hwyl, i gyd gyda’i gilydd.

Ond yn yr holl gyffro, peidiwch ag anghofio y dylech chi a’ch cariad drin eich gilydd â pharch.

Cofiwch y pethau hyn… 

Cyfathrebu

Er eu bod yn wirioneddol hoff ohonoch, nid ydynt yn gallu darllen meddyliau. Peidiwch â thybio bod eich cariad yn gwybod beth rydych yn ei deimlo neu’n ei feddwl. Siaradwch yn agored ac yn aml gyda’ch gilydd am eich perthynas, rhyw, pethau sy’n gwneud ichi chwerthin a phrofiadau newydd.

Couple holding hands

Cydsynio

Mae’n rhaid i unrhyw beth sy’n digwydd mewn perthynas ddigwydd gyda chytundeb y ddau ohonoch. Mae hyn yn cynnwys pethau fel cael rhyw, trafod materion preifat ag eraill, a phenderfyniadau mawr sy’n effeithio ar y naill a’r llall.

Parch

Cymerwch ofal i barchu teimladau a dewisiadau eich gilydd. Os ydych yn gwir ofalu am eich gilydd, bydd arnoch eisiau i’r ddau ohonoch fod yn hapus, ac fe wnewch gynorthwyo’ch gilydd i wneud y penderfyniadau cywir.

Two Pairs of feet

Ymdrin â chenfigen

Mae cenfigen yn emosiwn normal y mae llawer o bobl yn ei brofi mewn perthnasoedd rhamantus, ond fe all fynd allan o reolaeth.

Weithiau, gall greu rhwystrau rhwng pobl, a pheri i’r naill gymar fod yn sarhaus, yn ffiaidd neu’n ddig tuag at y llall.

Os ydych chi neu’ch cymar yn teimlo’n genfigennus, fe allai fod yn gysylltiedig â phob mathau o bethau eraill, fel ofn teimlo eich bod yn cael eich allgàu neu ddim yn teimlo’n ddigon da.

Siaradwch â’ch gilydd, ond os yw pethau’n gwaethygu, ewch at rywun rydych yn ymddiried ynddo am gymorth.

Rhyw a rhywioldeb

Nid yw pob person yn ei arddegau’n cael rhyw, ond mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau’n arbrofi â rhyw fath o ymddygiad rhywiol ar ryw adeg.

Mae arnoch angen sicrhau eich bod wedi astudio’r holl wybodaeth am ryw diogel, cydsynio, atal cenhedlu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Mae’n bwysig deall eich rhywioldeb hefyd – mae rhai pobl ifanc yn eu harddegau’n dechrau teimlo atyniad at aelodau o’r un rhyw neu fwy nag un rhyw. Mae pawb yn wahanol.

Peidiwch â bod ofn sgwrsio â’ch gofalwr maeth am yr holl bethau hyn – mae arnynt eisiau helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ac yn ddedwydd!

Cydsynio rhywiol

Cydsynio rhywiol yw pan ydych yn cytuno i fod yn gysylltiedig â rhywbeth rhywiol fel cusanu, cyffwrdd neu ryw. Nid oes gan neb yr hawl i wneud rhywbeth rhywiol gyda chi heb eich cydsyniad llawn chi.

Nid yw dweud ‘ie’ bob amser yn golygu eich bod wedi rhoi cydsyniad, yn enwedig os ydych yn pryderu am beth fydd yn digwydd os nad ydych yn cytuno. Os ydych wedi bod yn yfed neu’n cymryd cyffuriau, fe all effeithio ar eich barn, sy’n golygu ychwaith na allwch roi cydsyniad.

Yr oedran cydsynio yw 16. Golyga hyn ei bod hi’n anghyfreithiol i rywun gael rhyw â rhywun sy’n iau nag 16 oed.