Sut i wneud pontio di-dor
Gall symud ysgol fod yn gyffrous, yn ingol ac yn heriol. Rydym oll yn gorfod ei wneud pan wnawn y naid o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, ond gwyddom hefyd fod gan – am nifer o resymau – lawer o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal symudiadau ychwanegol, weithiau yng nghanol blwyddyn ysgol.
Ar y tudalen hyn, edrychwn ar gynghorion ynglŷn â sut i wneud y pontio mor ddi-dor â phosibl. Byddem yn awgrymu gofyn i athro, eich gofalwr maeth neu’ch gweithiwr cymdeithasol drin a thrafod y pethau ar y rhestr gyda chi a’ch helpu i wneud iddynt ddigwydd.
Un ar ddeg o gynghorion gwych ar gyfer symud ysgol yn llwyddiannus
-
Ffarweliwch yn iawn â’ch cyfeillion ysgol a’ch athrawon – efallai creu llyfr atgofion neu ofyn i bawb lofnodi crys-T.
-
Ysgrifennwch restr o’r holl bethau rydych yn edrych ymlaen atynt nglŷn â’ch ysgol newydd, yn ogystal â’r pethau rydych yn nerfus amdanynt.
-
Canfyddwch rywun rydych yn ymddiried ynddo/ ynddi i siarad yn agored am sut rydych yn teimlo am symud ysgol.
-
Dyfeisiwch gynllun yn ymwneud â’r hyn a wnewch mewn sefyllfaoedd neilltuol, megis mynd ar goll neu anghofio’ch dillad Ymarfer Corff.
-
Ymunwch â chlybiau yn eich ysgol newydd i ennill cyfeillion.
-
Siaradwch â phlant hŷn neu bobl ifanc sydd wedi profi symud ysgol yn ddiweddar am beth y canfuant o gymorth.
-
Fel person ifanc sydd â phrofiad gofal, dylai fod gennych hawl i gynefino manylach yn eich ysgol newydd. Gofynnwch i’ch gofalwyr maeth neu’ch gweithiwr cymdeithasol ganfod sut y gall hynny ddigwydd.
-
Cynlluniwch eich taith i’ch ysgol newydd ac ewch draw yno cyn y diwrnod cyntaf fel y byddwch yn gwybod yn union sut i fynd yno a faint o amser a gymer – nid oes arnoch eisiau’r straen o fod yn hwyr ar eich diwrnod cyntaf.
-
Meddyliwch am sut y byddwch yn cyflwyno’ch hun i bobl newydd, a’r hyn y byddwch yn ei ddweud wrthynt (os rhywbeth o gwbl) am fyw mewn gofal. Sut y byddwch yn egluro, os bydd yn rhaid ichi, pwy yw’ch gofalwyr maeth? Gall chwarae rhan hyn gyda’ch gofalwyr maeth fod yn ddefnyddiol.
-
Gwnewch restr o’r pethau rydych yn dda ynddynt. Gofynnwch i’ch gofalwyr maeth ychwanegu at y rhestr. Gall gwybod beth yw’ch cryfderau eich helpu i ymdrin â newid ac unrhyw heriau a all ddod gyda hynny.
-
Adfyfyriwch wrth i’ch tymor cyntaf yn eich ysgol newydd fynd rhagddo: A ydw i’n manteisio hyd yr eithaf ar gyfleoedd i ennill cyfeillion newydd? A allaf ganfod fy ffordd yn hawdd o amgylch yr ysgol? A ydw i’n drefnus? A ydw i’n gwneud cystal ag y gallaf gyda’m gwaith ysgol? Pa mor ddedwydd yr ydw i’n teimlo wrth imi’i hanelu hi am yr ysgol?